Mae arnom angen eich cymorth wrth i ni lunio cynlluniau i wella trefi a phentrefi yn Wrecsam, a’u gwneud nhw’n llefydd gwell i fyw, gweithio ac ymweld â nhw.
Y llynedd, fe wnaethom ofyn am farn pawb am y rhwystrau i deithio llesol a gofyn am awgrymiadau ynghylch sut mae modd gwella’r rhain.
Cawsom gannoedd o sylwadau o bob rhan o’r fwrdeistref sirol ac rydym ni wedi defnyddio’r sylwadau hynny i’n helpu i roi ein cynigion at ei gilydd.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Erbyn hyn rydym ni’n ymgynghori ar ein cynigion i ddiweddaru a chreu llwybrau cerdded a beicio newydd er mwyn sicrhau mai teithio llesol yw’r dull arferol o deithio ar gyfer siwrneiau lleol. Fe fydd hyn yn lleihau’r traffig diangen ac yn helpu teuluoedd i symud yn ddiogel, gwella ansawdd aer a gwella atyniad y llefydd i fyw a gweithio ynddynt.
Manylion y Cynigion
Maent yn canolbwyntio ar 13 ardal o Wrecsam a ddewiswyd gan eu bod nhw wedi’u lleoli ger cyfleusterau mae pobl yn gwneud teithiau byr atyn nhw’n rheolaidd – ysgolion, canolfannau hamdden, safleoedd gwaith, ardaloedd siopa lleol a gwasanaethau bws neu reilffordd.
Nid yw llwybrau Teithio Llesol yn lwybrau at ddibenion hamdden yn unig.
Dyma’r ardaloedd:
- Bradle
- Y Waun
- Coedpoeth
- Gresffordd
- Llai
- Rhosllanerchrugog
- Rhostyllen
- Yr Orsedd
- Rhiwabon
- Sydallt
- Tan-y-Fron
- Trefor
- Wrecsam
Sut allaf gymryd rhan?
Gallwch gymryd rhan yma a fydd yn eich cymryd i dudalen Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol ar gyfer Wrecsam.
Fe hoffem eich barn am y cynigion er mwyn sicrhau ein bod wedi dewis y llwybrau cywir, a pa unai ydych chi’n meddwl y byddant yn annog mwy o bobl i ddefnyddio llai ar eu ceir a naill ai cerdded neu feicio i ble maent eisiau mynd.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae gwella llwybrau Teithio Llesol yn Wrecsam yn bwysig am sawl rheswm megis gwella lles pobl a lleihau ein hallyriadau carbon.
“Mae hi hefyd yn bwysig ein bod yn gwneud popeth yn iawn er mwyn cefnogi’r hyn mae pobl eisiau ei weld yn cael ei wella, felly ewch ati i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
Mae’r ymgynghoriad ar agor hyd nes 23 Mawrth 2022.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL