Erthygl gwadd – Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
Cyn gosod y swm mae pobl yng Ngogledd Cymru yn ei dalu am blismona drwy’r praesept, mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, eisiau clywed yr hyn rydych yn ei feddwl am y cynlluniau fel rhan o ymgynghoriad ac arolwg cyhoeddus.
Ynghyd â chael eich barn ar newidiadau i’r swm a delir tuag at blismona, byddwch hefyd yn gallu dweud pa flaenoriaethau rydych eisiau gweld Heddlu Gogledd Cymru yn gweithredu arnynt. Bydd yr arolwg hefyd yn rhoi cyfle i chi roi sylwadau ar sut ydych yn gweld plismona yn eich cymuned eich hun yn fwy cyffredinol.
Mae’r arolwg yn agor ar 27 Tachwedd 2023 ac yn cau ar 7 Ionawr 2024.
Ewch i’r dolen isod yn ystod y cyfnod ymgynghori a llenwch ein harolwg byr er mwyn i’ch llais gael ei glywed. Mae copïau papur o’r arolwg, yn Gymraeg a Saesneg, hefyd ar gael mewn llyfrgelloedd a gorsafoedd heddlu ledled Gogledd Cymru. Gallwch hefyd gael yr arolwg mewn fformat Darllen Hawdd.
https://www.surveymonkey.co.uk/r/praesept23_schth
Er mwyn derbyn copi papur drwy’r post, cysylltwch â ni yn y ffyrdd canlynol:
E-bost: OPCC@northwales.police.uk
Ffôn: 01492 805486