Erthygl gwestai gan Trafnidiaeth Cymru
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn ystyried trawsnewid yr ardal o amgylch gorsaf Wrecsam Cyffredinol yn ganolfan drafnidiaeth leol a gwahoddir y cyhoedd i rannu eu barn.
Mae TrC yn gweithio ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Wrecsam, a phartneriaid ehangach, i gyflwyno cynllun adfywio mawr yn yr ardal o amgylch Gorsaf Wrecsam Cyffredinol, y cyfeirir ato fel ‘Porth Wrecsam’.
Nod yr ymgynghoriad 6 wythnos yw cael mwy o fanylion am unrhyw heriau y mae aelodau’r cyhoedd a busnesau yn eu hwynebu wrth deithio yn ôl ac ymlaen o Orsaf Reilffordd Wrecsam Cyffredinol ac wrth ddefnyddio’r orsaf.
Mae hyn er mwyn sicrhau bod ystod eang o adborth a chyfleoedd posibl yn yr ardal yn cael eu canfod, tra hefyd yn darparu diweddariad i gynigion Hwb Trafnidiaeth Porth Wrecsam.
Mae’r cyfnod ymgysylltu wedi dechrau a bydd ar agor nes 19 Rhagfyr 2023. Gallwch ddarllen rhagor am y cynigion a llenwi ffurflen adborth ar-lein yn: dweudeichdweud.trc.cymru/hyb-trafnidiaeth-porth-wrecsam
Bydd Trafnidiaeth Cymru’n cynnal cyfres o ddigwyddiadau galw heibio er mwyn rhoi cyfle i’r cyhoedd drafod y dyluniadau a’r cynigion ar gyfer y gwasanaethau gyda thimau’r prosiect. Dyma’r manylion:
- Tŷ Pawb (Tŷ Pawb, Stryd y Farchnad, Wrecsam LL13 8BB) – 14 Tachwedd, 14:00-18:00
- Ystafell B10 Prifysgol Wrecsam (Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam, Cymru, LL11 2AW) – 15 Tachwedd, 09:00-13:00
- Gorsaf Wrecsam Cyffredinol (Ffordd yr Orsaf, Wrecsam, LL11 2AA) – 29 Tachwedd, 09:00-19:00
Bydd ffurflenni adborth papur yn y Gymraeg a Saesneg ar gael yn y sesiynau galw heibio, neu gellir casglu’r rhain yn ystod y cyfnod ymgysylltu o Swyddfa docynnau gorsaf Wrecsam Cyffredinol, Llyfrgell Wrecsam a Tŷ Pawb (o 14 Tachwedd).
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth, cysylltwch â’r tîm:
E-bost: PorthWrecsamGateway@wsp.com
Yn y post (At Sylw: Hwb Trafnidiaeth Porth Wrecsam): Trafnidiaeth Cymru, Tŷ Ellice (Uned H), Pentref Busnes Wrecsam, Ffordd Ellice, Wrecsam, LL13 7YL.