Mae gan gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam ddwy gêm gartref i edrych ymlaen atynt yr wythnos nesaf – gadewch i ni ledaenu’r neges bod digon o le iddynt barcio ym maes parcio a theithio Ffordd Rhuthun!
Nod y gwasanaeth parcio a theithio yw atal tagfeydd yng nghanol y ddinas yn ogystal â pharcio anghyfreithlon a pheryglus ar ddiwrnodau gêm, sy’n achosi problemau i’r rhai sy’n byw ger y Cae Ras a’r rhai sy’n ceisio cael mynediad i ganol y ddinas i siopa.
Nod y gwasanaeth parcio a theithio yw atal y ddau beth hyn – mae traffig yn cael ei symud allan o ganol y ddinas ac mae eich car wedi’i barcio’n ddiogel ac yn gyfleus (cofiwch fod swyddogion gorfodi parcio o gwmpas ar ddiwrnod gêm!).
Dyma fanylion y gwasanaeth parcio a theithio ar gyfer y ddwy gêm hyn:
Wrecsam v Bristol City | Dydd Mercher, Tachwedd 26 | cic gyntaf am 7.45pm
Cyn y gêm
Parcio y tu allan i swyddfeydd Cyngor Wrecsam ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam LL13 7TU
Bysus yn dechrau rhedeg am 5.45pm
Ar ôl y gêm
Bydd bysiau’n gadael am 9.45pm, 10.05pm, 10.25pm, 10.45pm ac 11.05pm o Ffordd yr Wyddgrug, y tu allan i’r Cae Ras.
Dim ond £1 am daith ddwyffordd i oedolion (50c i blant)
Maes parcio’n cau am 11.45pm.
Wrecsam v Blackburn Rovers | Dydd Sadwrn, Tachwedd 29 | cic gyntaf am 3pm
Cyn y gêm
Parcio y tu allan i swyddfeydd Cyngor Wrecsam ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam LL13 7TU
Bysus yn dechrau rhedeg am 10.30pm
Ar ôl y gêm
Bydd bysiau’n gadael am 2.30pm, 2.50pm, 3.10pm, 3.30pm a 3.50pm o Ffordd yr Wyddgrug, y tu allan i’r Cae Ras.
Dim ond £1 am daith ddwyffordd i oedolion (50c i blant)
Maes parcio’n cau am 7pm.
Nod y gwasanaeth parcio a theithio yw lleihau tagfeydd.
Bydd defnyddio gwasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun hefyd yn golygu y bydd eich car wedi’i barcio’n ddiogel ac yn gyfleus. Ar ddiwrnodau gêm, bydd swyddogion gorfodi parcio allan i wneud yn siŵr nad yw ceir yn cael eu parcio’n anghyfreithlon neu’n beryglus yng nghanol y dref a’r ardal gyfagos.


