Rydyn ni wedi cael rhai Sadwrn cofiadwy yn Tŷ Pawb yn ddiweddar ac mae’r penwythnos hwn yn addo bod yno gyda’r gorau ohonynt!
Mae gennym ni ddiwrnod llawn o weithgareddau ar gyfer pob oedran!
Chwaraeon byw, cerddoriaeth fyw, celf, crefft i blant ac oedolion, bwyd gwych, bar, siopau gwych, mae’i gyd yma!
Felly beth am ddod i mewn o’r gaeaf i samplu rhywfaint o’r sbri Sadwrn!
Clwb Celf Sadwrn
10.00am-12.00pm
Hwn yw ein sesiwn gelf a chrefft gwyliau wythnosol i blant. Yn berffaith os bydd angen i chi wneud siopa yn y peth cyntaf! Addas ar gyfer plant 7-11 oed. £6 y sesiwn (£4 ar gyfer brodyr a chwiorydd).
Stori Walter Tull
10am-2pm
Rydym wrth ein bodd yn croesawu’r tîm o ‘Big Ideas’ a fydd gyda ni i ddweud stori ysbrydoledig Walter Tull – y swyddog Affricanaidd cyntaf yn y Fyddin Brydeinig a oedd hefyd yn chwarae pêl-droed ar gyfer Tottenham Hotspur.
Byddant yn dod â phapur a phrennau fel y gall plant greu poster i goffáu ei fywyd a’i ysbrydoliaeth.
Rygbi
12pm-5pm
Mae Cymru’n chwarae’r Alban yn gem gyntaf yr hydref. Fe fyddwn ni’n dangos y gêm ar ein sgrin fawr a bydd digon i gael y teulu cyfan yn yr hwyl…
- Cerddoriaeth fyw gyda Dave Elwyn (1pm-2pm).
- Paentio wyneb â Sophia Leadhill (12pm-2pm).
- Paentiwch eich draig cerameg eich hun gyda Cwtch Ceramics (drwy’r dydd).
- Bar ar agor o 1pm.
Cerddoriaeth fyw
7pm-11pm
I orffen y ddiwrnod ysblennydd hwn, bydd gennym gyngerdd yn cynnwys tri band lleol – Delta Radio Band, Revolutionary Spirit a’r Dave Elwyn Band.
Dim ond £5 am mynediad ac mae’n cynnwys diod!
Am ragor o wybodaeth am unrhyw un o’r digwyddiadau hyn, cysylltwch â ni ar typawb@wrexham.gov.uk neu ffoniwch 01978 292144.
Archwiliwch weddill Tŷ Pawb
Bydd marchnadoedd, ardal fwyd a’r orielau ar agor fel arfer! Ewch am dro, bwytawch, a pheidiwch ag anghofio edrych ar y gwaith celf wych yn yr arddangosfa Wrecsam Agored!Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
Each i wefan Tŷ Pawb yma.
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION