Mae rhai trigolion wedi dweud wrthym ni eu bod yn meddwl eu bod wedi colli’r cyfle i ymuno â’r gwasanaeth casglu gwastraff eleni gan nad oeddynt wedi cofrestru cyn mis Medi – ond dydy hynny ddim yn wir.
Fel y gwyddoch erbyn hyn, cychwynnodd y gwasanaeth sydd yn rhaid talu amdano ar 31 Awst, ond os nad ydych wedi cofrestru eto, mae’n dal yn bosib ymuno heddiw.
Cewch fwy o werth am arian o danysgrifio rŵan achos gallwch gael 10.5 mis arall o gasgliadau tan 31 Awst 2021. Gorau po gyntaf, os ydych am ymuno.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Dywedodd Darren Williams, Prif Swyddog yr Amgylchedd a Thechnegol: “Mae llawer ohonom yn defnyddio’n biniau gardd drwy’r hydref, gan gasglu dail sy’n cwympo, a chlirio unrhyw blanhigion marw ers yr haf. Rydym am atgoffa trigolion nad yw hi’n rhy hwyr i ymuno â’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd os nad ydych eisoes wedi ymuno. Mae’r ffi yr un fath ag o’r blaen – £25 fesul bin gwastraff gardd gwyrdd bob blwyddyn – a bydd eich bin(iau) yn cael eu gwagu tan 31 Awst 2021, felly mae’n dal yn werth ei wneud.”
Os ydych yn dymuno parhau i’ch bin(iau) gwastraff gwyrdd gael eu casglu gallwch dalu ar-lein ar www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd
Dyma’r ffordd hawsaf a mwyaf cyfleus o gofrestru ar gyfer y gwasanaeth, a gallwch wneud hynny unrhyw bryd a dim ond ychydig o funudau mae’n gymryd i gofrestru.
Os na allwch wneud hyn, gallwch hefyd dalu drwy ffonio 01978 298989, ond byddwch yn ymwybodol y bydd yn debygol y bydd yn rhaid i chi aros ychydig o wneud hynny. Rydym yn argymell peidio ffonio rhwng 11.30am a 2.30pm.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG