Tynnodd gwirfoddolwyr yn Nyffryn Ceiriog (wedi tynnu) at ei gilydd i baratoi, coginio a danfon 100 cinio rhost cig eidion i’r rhai sy’n hunan ynysu ddydd Gwener diwethaf, 22 Mai.
Cyn y coronafeirws roedd dau glwb cinio yn gweithredu bob pythefnos, un yn Neuadd Goffa Oliver Jones, Dolywern a’r llall yng Nghanolfan Gristnogol Ceiriog, Glyn Ceiriog. Yn sgil trafodaeth rhwng dau wirfoddolwr, gwnaeth gwirfoddolwyr o’r Ganolfan Gristnogol gais llwyddiannus am grant o £1000 gan Gymdeithas Mudiad Gwirfoddol Wrecsam, a daeth cynnig gan Ted ac Anne Johnston y bydden nhw’n fodlon paratoi’r prydau.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Coginiodd Mr a Mrs Johnston y bwyd yng nghegin newydd Neuadd Goffa Oliver Jones ac yna’i roi mewn cynwysyddion addas ar gyfer y ficrodon gyda chymorth gan Andrew Pearce, Trevor Bate a Sarah Bates. Danfonwyd y ddau lwyth cyntaf i Lanarmon DC a Thregeiriog gan Jane Claybrook ac Anne Lloyd Morris, yna danfonodd Rowena Lewis ac Adrian Richards rai i Lyn Ceiriog, ac aeth Agnes Roberts, Darren Eccleston, Peter Cassidy, Ian Mast, Graham Barrow ac Edith Jones â rhai i Lyntarian.
Dywedodd Swyddog Cymunedol Glyntraian, Davena Davies, “Roedd yn anhygoel. Treuliodd Ted ac Anne oriau’n plicio a pharatoi llysiau. Cafodd y prydau eu pacio a’u danfon o fewn awr. Mae cymaint o bobl wedi ffonio i ddweud mor falch oedden nhw o’u cinio”.
Mae’r Cynghorydd Sir Trevor Bates (wedi bod – dileu?) yn hynod falch o’r ysbryd cymunedol yn Nyffryn Ceiriog. “Mae gen i restr o 50 o bobl sy’n cynnig helpu gyda danfon neges bwyd, presgripsiynau a phrydau bwyd, ond mae cynifer o gymdogion sy’n barod i helpu ei gilydd fel mai dim ond dyrnaid ohonynt sydd wedi cael eu galw. Dyma’r ysbryd sydd ymhlith ein trigolion. Roedd hi’n wych hefyd gweld y Swyddogion Cymuned yn gweithio gyda’i gilydd fel tîm ar hyn”.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19