Mae arolwg yn mynd rhagddo i helpu asesu anghenion sipsiwn a theithwyr sy’n byw yn Wrecsam neu’n ymweld â’r fwrdeistref sirol.
Fel pob awdurdod tai arall yng Nghymru, mae gan Gyngor Wrecsam rwymedigaeth gyfreithiol i gynnal asesiad bob pum mlynedd.
Y nod yw cyfrifo faint o leiniau carafanau a llety a fydd eu hangen.
Roedd yr asesiad i fod i gael ei gynnal y llynedd, ond cafodd ei oedi yn sgil pandemig coronafeirws.
Ni fydd y gwaith yn edrych ar leoliad unrhyw leiniau ychwanegol sydd eu hangen – bydd unrhyw safleoedd posibl yn cael eu harchwilio fel rhan o’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), sy’n broses ar wahân.
Dyletswydd gyfreithiol a moesol
Bydd y cyngor yn mynd allan i siarad â chymunedau sipsiwn a theithwyr lleol yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf i helpu deall eu patrymau a threfniadau byw tebygol dros y blynyddoedd nesaf.
Unwaith y cwblheir hyn, bydd y canfyddiadau yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer cymeradwyaeth. Yna bydd gan y cyngor ddyletswydd cyfreithiol i ddiwallu yr anghenion a nodwyd.
Dywedodd y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai Cyngor Wrecsam: “Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i asesu llety teithwyr bob pum mlynedd, ac mae gennym hefyd ddyletswydd foesol fel cyngor a darparwr tai lleol a thrugarog.
“Mae’n bwysig deall fod yr ymarfer hwn yn ymwneud â niferoedd a data craidd yn unig – mae’n ymwneud â sawl llain a sawl llety y byddwn ei angen. Nid yw hwn yn ymwneud â lleoliadau’r lleiniau hyn.
“Er mwyn bod yn dryloyw, mae’n bwysig rhoi gwybod i bobl ein bod ni’n cyflawni’r gwaith hwn, ac i sicrhau fod pobl yn deall pam.”
Os ydych chi’n adnabod unrhyw deithwyr neu sipsiwn a fyddai’n hoffi cael eu cyfweld fel rhan o’r ymgynghoriad, ffoniwch 07474 267095 neu 01792 535300, neu anfonwch e-bost at michael.bayliss@ors.org.uk