Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Diweddarwyd diwethaf: Medi 2, 2026 4:58 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
RHANNU

Mae cyngherddau amser cinio rhad ac am ddim yn dychwelyd i ganolfan ddiwylliannol Wrecsam – sydd wedi ennill nifer o wobrau – ar gyfer tymor yr hydref newydd sbon.

Mae rhaglen y tymor newydd yn cynnwys rhestr wych arall o gerddorion o’r ardal leol a thu hwnt, gan gynnwys enillydd gwobr Cerddor Ifanc Cymru Pendine 2025, Rufus Edwards (o Bersham), The Nova Saxophone Quartet a’r delynoes uchel ei bri, Katie Hedley.

Cynhelir y cyngherddau ar brynhawniau Mercher gan ddechrau am 1yp, ac maent yn hollol rhad ac am ddim. Nid oes angen archebu lle, ond gofynnir i’r gynulleidfa gyrraedd yn ddigon buan i ddod o hyd i sedd dda cyn i’r perfformiad ddechrau.

Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar.

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Croeso cynnes i bob ymwelydd

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam sy’n gyfrifol am Dŷ Pawb: “Mae’r cyngherddau rhad ac am ddim yn parhau i fod yn un o’r digwyddiadau rheolaidd mwyaf poblogaidd ar raglen Tŷ Pawb, gan gynnig cyfle i ymwelwyr fwynhau seibiant o brysurdeb yr wythnos a mwynhau awr o dawelwch yng nghwmni cerddorion gwirioneddol ragorol.

“Roedd hi’n wych gweld y gynulleidfa’n tyfu gyda phob cyngerdd yn ystod tymor yr haf diweddar. Mae’r cyngherddau wedi’u cynllunio i fod yn hygyrch i bob math o gynulleidfa; felly, p’un a ydych chi’n mynychu’n rheolaidd neu’n hollol newydd i berfformiadau cerddoriaeth glasurol, cewch groeso cynnes.

“Mae’r cyngherddau yn ategu rhaglen ragorol Tŷ Pawb o weithgareddau yn ystod y dydd, sydd bellach yn cynnwys clybiau crefft, clwb cerddoriaeth, clwb garddio ar y to a sesiynau chwarae i deuluoedd.”

Mae tymor newydd y cyngherddau rhad ac am ddim yn dechrau ddydd Mercher 9 Medi am 1pm.

Gweler manylion llawn ar wefan Tŷ Pawb

Mae rhaglenni printiedig ar gael o brif dderbynfa Tŷ Pawb.

Rhannu
Erthygl flaenorol Yorke Street Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Erthygl nesaf BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English