Mae dyn ifanc o Wrecsam a gafodd ei fagu yn y system ofal wedi cael cyfle i bwysleisio pwysigrwydd gofal a chryfder y rheiny sydd wedi byw yn y system ofal i gynulleidfa o arbenigwyr rhyngwladol – gan gynnwys Prif Weinidog gwlad Groeg.
Bu Tom Blackwell, sy’n 20 oed ac yn byw yn Wrecsam, yn gweithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd yr haf hwn er mwyn rhoi ei farn ar sut gall pobl ail godi o gefndiroedd niweidiol a’r heriau y maent yn gorfod eu hwynebu yn aml o ganlyniad i hynny.
Gwnaed rhaglen ddogfen fer o brofiadau Tom, yn egluro hanes ei fywyd a chodi ymwybyddiaeth o dlodi plant a’r angen i ganolbwyntio ar bwysigrwydd gwytnwch dynol mewn gwaith iechyd, gan gynorthwyo pobl i ail godi’n gryfach ar ôl profiadau neu gefndiroedd anodd neu ysgytiol.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Yn ystod ei gyfnod yn uwchgynhadledd Sefydliad Iechyd y Byd, dangoswyd y rhaglen ddogfen yng nghyfarfod y prif bwyllgor o flaen arweinwyr Ewropeaidd dylanwadol, gan gynnwys Prif Weinidog gwlad Groeg, Alexis Tsipras.
Saethodd Tom o wleidyddiaeth lleol i’r llwyfan cenedlaethol wedi iddo gael ei weld yn cynorthwyo ar ymgynghoriad Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn sicrhau fod pobl ifanc yn cael cyfle i ddweud eu barn ar iechyd.
Cychwynnodd Tom ei rôl yn Senedd yr Ifanc yn gynharach eleni, gan ymuno yn y man cyntaf i gefnogi ffrind.
Dywedodd: “Dim ond ers pum mis wyf wedi bod yn aelod. Cychwynnais gyda’r bwriad o gefnogi ffrind ifanc anabl oedd am ymuno.
“Ar ôl tri chyfarfod sylweddolais nad oedd fy ffrind yn mynd i ddod, ond fe wnes i barhau a dechrau mwynhau’n arw.
O fewn wythnosau yn unig yn Senedd yr Ifanc, dewiswyd Tom i weithio ar ymgynghoriad oedd yn cael ei redeg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn rhoi ei farn ar sut gallai ystadegau a data a gesglir gan y corff iechyd gael ei gyhoeddi yn well ac mewn modd mwy sensitif er mwyn ei wneud yn fwy hygyrch i bobl ifanc.
“Es i lawr i Gaerdydd gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru gan eu bod am ymgynghori â phobl ifanc – roedd yn fanwl iawn a doedd dim ynddo mewn gwirionedd i’w wneud yn fwy hygyrch i gynulleidfa iau.
“Ond roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru am gasglu’r holl wybodaeth bosib ac felly roeddynt am sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno yn well i blant sy’n anabl, neu o gefndiroedd anodd.
“Gan fy mod wastad wedi bod yn ymwybodol o wleidyddiaeth, roeddwn am wneud yn siŵr fy mod yn gofyn cymaint o gwestiynau ac yn argymell cymaint o welliannau a phosib, ac roedd hynny wedi eu plesio. “
“Roedden nhw eisiau fy hanes , hefyd – dim fy marn yn unig”
Tra roedd yn y gynhadledd yng Nghaerdydd, tynnodd ei waith a’r help oedd wedi ei roi i Iechyd Cyhoeddus Cymru sylw Sefydliad Iechyd y Byd.
“Roedd cyfarwyddwr Iechyd Cyhoedd Cymru yn bresennol yn un o’r cyfarfodydd ar gyfer yr ymgynghoriad, ac fe’m enwebwyd i fynd i weithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd.
“Daeth Sefydliad Iechyd y Byd draw a ffilmio rhaglen ddogfen o fy mhrofiad mewn gofal a fy mywyd yma yn Wrecsam, yn byw yn annibynnol ers yn 17 oed; fe wnaethon nhw fy recordio yn yn beicio mynydd o amgylch Erddig, a gofynnwyd am glip o dîm lleol Clwb Pêl-droed Wrecsam. Roedd yn gyfweliad braf iawn, roedden nhw am ddod i fy adnabod yn llwyr, nid cael gwybod am yr amseroedd anodd yn unig.
“Roedden nhw eisiau fy hanes , hefyd – dim fy marn yn unig. Roedden nhw am glywed gan rywun oedd wedi byw drwy gefndir anodd. Yn bendant cefais fwy o gyfrifoldeb – roeddwn am gyfleu fy mhrofiadau.”
“Roedd yn fraint i fi gael y cyfle”
Cafodd gyfle hefyd i ymweld â chynhadledd Sefydliad Iechyd y Byd yn Budapest, yn rhoi ei farn ar wytnwch dynol yn ystod trafodaeth gydag athro Eidalaidd a meddyg Pwylaidd.
Ychwanegodd: “Roedd yn fraint i fi gael y cyfle. Roeddwn yn ddiolchgar iawn o gael fy holi, ond mae digon o bobl wedi bod yn fy sefyllfa i o’r blaen, sy’n cael bywyd yn heriol, yn anffodus.
“Yn ystod fy nghyfnod yn Hwngari cefais gyfle i siarad mewn cinio i weinidogion gyda’r holl swyddogion yn bresennol.
“Y materion wnaeth ddenu’r sylw mwyaf oedd yr wyth cartref gofal gwahanol i mi fyw ynddynt, a’r degau – efallai mwy na chant – o blant roeddwn wedi byw â nhw.
“Gallaf gyfri’ ar un llaw faint o’r rheiny sy’n hapus ac yn llwyddiannus heddiw, ond rwyf wedi colli cyfri’ ar faint ohonynt sy’n rieni dan oed, yng ngofal y sefydliad, mewn carchar, neu, yn drist iawn, wedi marw.”
“Pan fyddwch yn gweithio gyda grwpiau fel Iechyd Cyhoeddus Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd allwch chi ddim dal yn ôl, ond rwy’n ofnadwy o falch o fod mewn sefyllfa i siarad am fy ngorffennol.
“Rwy’n teimlo dyletswydd i ymladd dros blant eraill sy’n dod drwy’r system ofal.”
Meddai’r Cynghorydd William Baldwin, Aelod Arweiniol Plant: “Rwy’n falch iawn o weld rhywun fel Tom, sydd wedi ei fagu yn y system ofal, yn tynnu sylw Sefydliad Iechyd y Byd.
“Ni ellir tan werthfawrogi arbenigedd a phrofiad pobl ifanc fel Tom, ond mae’n arbennig o braf gweld fod asiantaethau cenedlaethol a rhyngwladol wedi cydnabod beth sydd ganddo i’w ddweud am ofal, a’r profiadau y mae’n rhaid i’r rhai sydd mewn gofal eu dioddef.
“Rwy’n llongyfarch Tom ar ei ymdrechion, ac yn dymuno’r gorau iddo yn ei astudiaethau.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI