Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dyn ifanc o Wrecsam yn adrodd hanes ei fywyd mewn gofal i gynulleidfa o arbenigwyr rhyngwladol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle
9000
Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Pobl a lle Y cyngor
Ty Mawr
Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr
Fideo Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Dyn ifanc o Wrecsam yn adrodd hanes ei fywyd mewn gofal i gynulleidfa o arbenigwyr rhyngwladol
Pobl a lleY cyngor

Dyn ifanc o Wrecsam yn adrodd hanes ei fywyd mewn gofal i gynulleidfa o arbenigwyr rhyngwladol

Diweddarwyd diwethaf: 2017/10/04 at 10:16 AM
Rhannu
Darllen 7 funud
Dyn ifanc o Wrecsam yn adrodd hanes ei fywyd mewn gofal i gynulleidfa o arbenigwyr rhyngwladol
RHANNU

Mae dyn ifanc o Wrecsam a gafodd ei fagu yn y system ofal wedi cael cyfle i bwysleisio pwysigrwydd gofal a chryfder y rheiny sydd wedi byw yn y system ofal i gynulleidfa o arbenigwyr rhyngwladol – gan gynnwys Prif Weinidog gwlad Groeg.

Cynnwys
“Roedden nhw eisiau fy hanes , hefyd – dim fy marn yn unig”“Roedd yn fraint i fi gael y cyfle”

Bu Tom Blackwell, sy’n 20 oed ac yn byw yn Wrecsam, yn gweithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd yr haf hwn er mwyn rhoi ei farn ar sut gall pobl ail godi o gefndiroedd niweidiol a’r heriau y maent yn gorfod eu hwynebu yn aml o ganlyniad i hynny.

Gwnaed rhaglen ddogfen fer o brofiadau Tom, yn egluro hanes ei fywyd a chodi ymwybyddiaeth o dlodi plant a’r angen i ganolbwyntio ar bwysigrwydd gwytnwch dynol mewn gwaith iechyd, gan gynorthwyo pobl i ail godi’n gryfach ar ôl profiadau neu gefndiroedd anodd neu ysgytiol.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Yn ystod ei gyfnod yn uwchgynhadledd Sefydliad Iechyd y Byd, dangoswyd y rhaglen ddogfen yng nghyfarfod y prif bwyllgor o flaen arweinwyr Ewropeaidd dylanwadol, gan gynnwys Prif Weinidog gwlad Groeg, Alexis Tsipras.

Saethodd Tom o wleidyddiaeth lleol i’r llwyfan cenedlaethol wedi iddo gael ei weld yn cynorthwyo ar ymgynghoriad Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn sicrhau fod pobl ifanc yn cael cyfle i ddweud eu barn ar iechyd.

Cychwynnodd Tom ei rôl yn Senedd yr Ifanc yn gynharach eleni, gan ymuno yn y man cyntaf i gefnogi ffrind.

Dywedodd: “Dim ond ers pum mis wyf wedi bod yn aelod. Cychwynnais gyda’r bwriad o gefnogi ffrind ifanc anabl oedd am ymuno.

“Ar ôl tri chyfarfod sylweddolais nad oedd fy ffrind yn mynd i ddod, ond fe wnes i barhau a dechrau mwynhau’n arw.

O fewn wythnosau yn unig yn Senedd yr Ifanc, dewiswyd Tom i weithio ar ymgynghoriad oedd yn cael ei redeg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn rhoi ei farn ar sut gallai ystadegau a data a gesglir gan y corff iechyd gael ei gyhoeddi yn well ac mewn modd mwy sensitif er mwyn ei wneud yn fwy hygyrch i bobl ifanc.

“Es i lawr i Gaerdydd gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru gan eu bod am ymgynghori â phobl ifanc – roedd yn fanwl iawn a doedd dim ynddo mewn gwirionedd i’w wneud yn fwy hygyrch i gynulleidfa iau.

“Ond roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru am gasglu’r holl wybodaeth bosib ac felly roeddynt am sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno yn well i blant sy’n anabl, neu o gefndiroedd anodd.

“Gan fy mod wastad wedi bod yn ymwybodol o wleidyddiaeth, roeddwn am wneud yn siŵr fy mod yn gofyn cymaint o gwestiynau ac yn argymell cymaint o welliannau a phosib, ac roedd hynny wedi eu plesio. “

“Roedden nhw eisiau fy hanes , hefyd – dim fy marn yn unig”

Tra roedd yn y gynhadledd yng Nghaerdydd, tynnodd ei waith a’r help oedd wedi ei roi i Iechyd Cyhoeddus Cymru sylw Sefydliad Iechyd y Byd.

“Roedd cyfarwyddwr Iechyd Cyhoedd Cymru yn bresennol yn un o’r cyfarfodydd ar gyfer yr ymgynghoriad, ac fe’m enwebwyd i fynd i weithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd.

“Daeth Sefydliad Iechyd y Byd draw a ffilmio rhaglen ddogfen o fy mhrofiad mewn gofal a fy mywyd yma yn Wrecsam, yn byw yn annibynnol ers yn 17 oed; fe wnaethon nhw fy recordio yn yn beicio mynydd o amgylch Erddig, a gofynnwyd am glip o dîm lleol Clwb Pêl-droed Wrecsam. Roedd yn gyfweliad braf iawn, roedden nhw am ddod i fy adnabod yn llwyr, nid cael gwybod am yr amseroedd anodd yn unig.

“Roedden nhw eisiau fy hanes , hefyd – dim fy marn yn unig.  Roedden nhw am glywed gan rywun oedd wedi byw drwy gefndir anodd. Yn bendant cefais fwy o gyfrifoldeb – roeddwn am gyfleu fy mhrofiadau.”

“Roedd yn fraint i fi gael y cyfle”

Cafodd gyfle hefyd i ymweld â chynhadledd Sefydliad Iechyd y Byd yn Budapest, yn rhoi ei farn ar wytnwch dynol yn ystod trafodaeth gydag athro Eidalaidd a meddyg Pwylaidd.

Ychwanegodd: “Roedd yn fraint i fi gael y cyfle. Roeddwn yn ddiolchgar iawn o gael fy holi, ond mae digon o bobl wedi bod yn fy sefyllfa i o’r blaen, sy’n cael bywyd yn heriol, yn anffodus.

“Yn ystod fy nghyfnod yn Hwngari cefais gyfle i siarad mewn cinio i weinidogion gyda’r holl swyddogion yn bresennol.

“Y materion wnaeth ddenu’r sylw mwyaf oedd yr wyth cartref gofal gwahanol i mi fyw ynddynt, a’r degau – efallai mwy na chant – o blant roeddwn wedi byw â nhw.

“Gallaf gyfri’ ar un llaw faint o’r rheiny sy’n hapus ac yn llwyddiannus heddiw, ond rwyf wedi colli cyfri’ ar faint ohonynt sy’n rieni dan oed, yng ngofal y sefydliad, mewn carchar, neu, yn drist iawn, wedi marw.”

“Pan fyddwch yn gweithio gyda grwpiau fel Iechyd Cyhoeddus Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd allwch chi ddim dal yn ôl, ond rwy’n ofnadwy o falch o fod mewn sefyllfa i siarad am fy ngorffennol.

“Rwy’n teimlo dyletswydd i ymladd dros blant eraill sy’n dod drwy’r system ofal.”

Meddai’r Cynghorydd William Baldwin, Aelod Arweiniol Plant: “Rwy’n falch iawn o weld rhywun fel Tom, sydd wedi ei fagu yn y system ofal, yn tynnu sylw Sefydliad Iechyd y Byd.

“Ni ellir tan werthfawrogi arbenigedd a phrofiad pobl ifanc fel Tom, ond mae’n arbennig o braf gweld fod asiantaethau cenedlaethol a rhyngwladol wedi cydnabod beth sydd ganddo i’w ddweud am ofal, a’r profiadau y mae’n rhaid i’r rhai sydd mewn gofal eu dioddef.

“Rwy’n llongyfarch Tom ar ei ymdrechion, ac yn dymuno’r gorau iddo yn ei astudiaethau.”

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.

COFRESTRWCH FI

Rhannu
Erthygl flaenorol tWIG ar Dost – y celfyddydau’n boblogaidd yn Wrecsam tWIG ar Dost – y celfyddydau’n boblogaidd yn Wrecsam
Erthygl nesaf Active Travel Ydych chi’n cerdded neu’n beicio?  Sut gallwn ni wella’r llwybrau rydych yn eu defnyddio?

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg Gorffennaf 4, 2025
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025
9000
Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 4, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
DigwyddiadauPobl a lle

Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel

Gorffennaf 4, 2025
trees
Pobl a lle

Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned

Gorffennaf 4, 2025
9000
Pobl a lleY cyngor

Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd

Gorffennaf 4, 2025
Ty Mawr
FideoPobl a lleY cyngor

Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr

Gorffennaf 4, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English