Os ydych yn aelod o’r llyfrgell, gallwch fynd ar Theory Test Pro ar-lein yn rhad ac am ddim. Mae Theory Test Pro yn safle ar-lein sy’n cynnwys banc cwestiynau cyflawn y prawf swyddogol ynghyd â llu o wybodaeth ac adnoddau defnyddiol eraill.
Mae Theory Test Pro yn efelychiad realistig iawn o brofion theori gyrru’r DU ar gyfer pob categori.
Mae’n cynnwys:
– Mynediad digyfyngiad i’r cwestiynau swyddogol gan DVSA yn yr un fformat â’r prawf swyddogol
– Yn cynnwys fersiwn ar-lein o Reolau’r Ffordd Fawr
– Efelychiadau fideo canfod peryglon realistig
– Mynediad i fanc y prawf ar gyfer y categorïau ceir, beiciau modur, cerbydau cludo teithwyr a cherbydau nwyddau trwm
– Cyfieithu peirianyddol i dros 40 o wahanol ieithoedd
– Profion gyda lleferydd wedi ei alluogi fel y gallwch wrando ar gwestiynau
Felly, os ydych yn dysgu gyrru, gwnewch yn siŵr eich bod yn aelod o’r llyfrgell i sicrhau eich bod yn llwyddo’r tro cyntaf yn eich prawf theori!
Gallwch gael mynediad i Theory Test Pro drwy Lyfrgelloedd Wrecsam YMA
Ddim yn aelod o’r llyfrgell?
Gallwch ymuno â’r llyfrgell leol am ddim a gallwch ei wneud ar-lein yma rŵan
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR