Yn ystod yr amser heriol hwn, mae’n bwysig iawn ein bod yn gofalu am ein hunain ac eraill. A dyna’r achos dim ots ble rydych chi’n byw. Rydym i gyd yn rhan o rywbeth mwy – ac mae helpu yn eich cymuned yn ffordd wych o ddangos hynny.
Mae angen i ni i gyd aros gartref i ddiogelu ein hunain ac eraill. Ond gall pobl iach sydd ddim mewn risg roi cymorth hanfodol i’w teulu, eu ffrindiau a’u cymdogion sydd wedi’u hynysu.
Sut alla i helpu?
Fe ddylen ni i gyd aros gartref ac osgoi mynd allan, heblaw am resymau hanfodol, er mwyn lleihau lledaeniad y coronafeirws.
Er hynny, fe allwch chi roi cymorth hanfodol i bobl sydd wedi’u hynysu os ydych yn bodloni pob un o’r amodau isod:
- eich bod yn holliach a heb unrhyw symptomau fel peswch neu dymheredd uchel, a bod hynny’n wir am bawb yn eich cartref
- eich bod o dan 70 oed
- nad ydych yn feichiog
- nad oes gennych unrhyw gyflyrau iechyd sy’n golygu bod risg uwch o fod yn ddifrifol sâl oherwydd COVID-19
Darllenwch y canllawiau i’r rhai sydd mewn perygl uwch o fynd yn sâl iawn gyda’r coronafeirws.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Gwneud y pethau bychain: Edrych ar ôl ein gilydd yn ddiogel
Os nad oes symptomau gen ti, a bo’ ti eisiau cefnogi pobl sy’n aros gartref oherwydd y Coronafeirws, dyma bum ffordd ddiogel y galli di helpu.
https://llyw.cymru/iach-a-diogel?_ga=2.49347109.2013379490.1585831943-1602625131.1538730314
Allwch chi helpu fel gwirfoddolwr?
Fe allwch chi gofrestru fel gwirfoddolwr posibl i helpu staff i ddarparu gwasanaethau rheng flaen ac i gefnogi cyfeillio cymunedol.
Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam yn annog pobl i gofrestru.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19