Mae gan lawer ohonom ddiddordeb mewn ymchwilio i’n coeden deulu a darganfod o le’r ydym wedi dod ac i bwy yr ydym yn perthyn.
Mae hyn yn gallu bod yn ddrud iawn a gall fynd â llawer iawn o’ch amser ond os ewch i unrhyw un o lyfrgelloedd Wrecsam gallwch ddefnyddio Findmypast – gwasanaeth hel achau ar-lein – am ddim trwy ddefnyddio un o gyfrifiaduron y llyfrgell.
Findmypast oedd y cwmni cyntaf yn y byd i roi holl fynegeion genedigaethau, priodasau a marwolaethau Cymru a Lloegr ar y we.
Mae ganddo dros 2 biliwn o gofnodion ledled y byd y gellir eu harchwilio!
Felly os ydych yn y broses o olrhain eich coeden deulu neu wedi bod yn meddwl tybed beth oedd gwaith eich hynafiaid, mae’ch llyfrgell leol yn lle gwych i ddechrau arni!
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://admissions.wrexham.gov.uk/CitizenPortal_Live/Account/Login?ReturnUrl=%2FCitizenPortal_Live%2F%E2%80%9D”] GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN [/button]