Llun o ddiweddglo tân gwyllt ysblennydd yn nigwyddiad O Dan y Bwâu yn Nhraphont Ddŵr Ponty sydd wedi’i bleidleisio fel enillydd Gorffennaf yng Nghalendr Rhyfeddodau Wrecsam 2017.
“daliwch ati i anfon y lluniau hyn”
Dywedodd Geraint Roberts:
“Pan dynnais y llun, roeddwn yn gwybod y byddai’n llun da. Mae O Dan y Bwâu yn ddigwyddiad trawiadol gydag thân gwyllt gwych i ddiweddu’r digwyddiad. Rwyf yn annog pawb i ddal i anfon y lluniau hyn yn arbennig gan ein bod yng ngwyliau’r haf ac mae pawb yma ac acw llawer mwy.”
Mae’r digwyddiad yn ddathliad blynyddol o’r Safle Treftadaeth Y Byd ac mae preswylwyr lleol o bob oed yn mwynhau noson o gerddoriaeth a chaneuon sydd yn dod i ben gydag arddangosfa tân gwyllt gwych yn goleuo bwâu’r Traphont Ddŵr.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Lansiwyd Cystadleuaeth Calendr Rhyfeddodau Wrecsam 2018 ddechrau mis Tachwedd yn dilyn y newyddion bod Gogledd Cymru yn y bedwerydd yn y byd o ran y rhanbarthau i ymweld â nhw. Ar y pryd, roedd staff yn credu ei bod yn deg i Wrecsam ddathlu ei lle yn y byd gyda chofnod ar ffurf lluniau o Wrecsam drwy gydol y flwyddyn.
Nod y gystadleuaeth yw dod o hyd i lun gan ffotograffydd amatur sy’n dangos y mis hwnnw yn ei hanfod.
Gwahoddir lluniau ar gyfer mis Awst, gan fod hi’n wyliau haf rwy’n siŵr eich bod yma ac acw llawer mwy, felly peidiwch ag anghofio anfon eich lluniau i calendar@wrexham.gov.uk
Bydd y lluniau buddugol i gyd i’w gweld yng nghalendr Rhyfeddodau Wrecsam 2018 a fydd yn cael ei gynhyrchu ym mis Tachwedd. Nid oes gwobr i’r enillwyr, ond bydd pob un o’r 12 ohonynt yn cael copïau o galendr Rhyfeddodau Wrecsam 2018 pan fydd yn cael ei argraffu gyda’u llun a’u henw oddi tano.
Gall ceisiadau fod o unrhyw le yn y Fwrdeistref Sirol a rhaid bod y llun wedi’i dynnu ym mis Awst.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI