VIC Assistants

Mae gennym ddwy swydd wag ar gyfer Cynorthwywyr Gwybodaeth i Ymwelwyr sy’n medru’r Gymraeg ar gael yn awr.

Wedi’u lleoli yn y Ganolfan Ymwelwyr ar Stryt Caer, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cefnogi’r rheolwr manwerthu newydd o ddydd i ddydd gan gynnig ystod o wasanaethau twristiaeth yn amrywio o gymorth busnes lletygarwch, trefnu digwyddiadau, a gweithio gyda Chroeso Cymru i hyrwyddo’r sir fel cyrchfan.

Yr oriau yw 28 awr yr wythnos gan gynnwys rhai dyddiau Sadwrn.

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Mae’r ganolfan, sydd ar agor yn awr (ond yn bwriadu ailagor yn llawn ym mis Tachwedd) yn parhau i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf, mapiau, newyddion am ddigwyddiadau a thaflenni gwybodaeth leol.   Yn ogystal â hyn, mae rheolwr newydd wedi’i recriwtio ar gyfer y ganolfan, o gefndir manwerthu a bwyd / diod lleol cryf, a bydd hyn yn amlwg yn ddyddiol yn y ganolfan.

Bydd y ganolfan yn gweithredu fel siop un alwad ar gyfer ymwelwyr a busnesau yn y sector lletygarwch i ganfod gwybodaeth ac i gael cymorth busnes.

Bydd y swyddi newydd ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn addas i eiriolwyr gwybodus, hwyliog a brwdfrydig ar gyfer y sir.   Wedi’u lleoli yn y Ganolfan i Ymwelwyr ar Stryt Caer, bydd y rolau’n cynnig y cyfle i groesawu ymwelwyr i ganol y dref, cefnogi digwyddiadau bwyd a diod a hyrwyddo Wrecsam fel lleoliad gwych i ymweld ag ef.

Yn ôl yn 2009, fe roddodd UNESCO deitl Safle Treftadaeth y Byd i Ddyfrbont a Chamlas Pontcysyllte, gan drawsnewid y safle – ynghyd â sector twristiaeth Wrecsam- dros nos i economi dros £100m.  Dros ddegawd yn ddiweddarach ac ochr yn ochr â hyn, mae twf a buddsoddiad yn sector twristiaeth Wrecsam wedi bod yn drawiadol gan arwain at gais am Ddinas Diwylliant yn 2025 a denu rhagor o sylw rhyngwladol gydag Americanwyr yn rheoli Clwb Pêl-Droed Wrecsam yn awr.

Mae Joe Bickerton, Rheolwr Cyrchfan yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cefnogi twristiaeth ar draws y Fwrdeistref Sirol a Gogledd Ddwyrain Cymru ac yn gweld y ganolfan newydd fel elfen allweddol o’r sector twristiaeth sy’n tyfu yn Wrecsam ar gyfer y dyfodol.   Dywedodd, “Mae Wrecsam wedi wynebu gwelliant o ran twf twristiaeth ers dros ddegawd yn awr, felly mae’r cyfle i ymuno â’r tîm a gweithio yn y ganolfan newydd i ymwelwyr yn un cyffrous iawn a bydd yn cynnig cyfle i rannu eich brwdfrydedd am ein hardal a chefnogi busnesau lleol.

“Mae goresgyn yr heriau a wynebwyd yn 2020 ac adfer wedi hynny yn golygu bod darparu cefnogaeth barhaus ar gyfer y diwydiant twristiaeth wedi bod yn allweddol.   Y gobaith yw y bydd y ganolfan newydd a’n cefnogaeth barhaus a’n gwaith hyrwyddo, ynghyd â’r rhaglen ddigwyddiadau, yn cynyddu nifer yr ymwelwyr yn 2023 – ynghyd â’r amlygiad rhyngwladol anhygoel y mae Wrecsam yn ei gael ar hyn o bryd a fydd yn darparu buddion ychwanegol i’n cymuned.”

I wneud cais am swydd fel Cynorthwy-ydd Canolfan Ymwelwyr Wrecsam, cliciwch yma.

4 Tachwedd yw’r dyddiad cau.

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI