Beth ydi’r Siop INFO?
Eich siop un stop os ydych dan 25…
Mae’r Siop INFO yn siop wybodaeth am ddim a chyfrinachol i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Gallwch ddod o hyd i’r siop ar Stryt y Lampint yn Wrecsam ac mae’n le gwych am wybodaeth, cyngor a gwasanaethau cwnsela.
Gall y wybodaeth sydd ar gael i bobl ifanc amrywio o gyngor ar arian i gwnsela. Mae aelodau staff cymwys a chyfeillgar yno o hyd i helpu gydag unrhyw ymholiadau neu bryderon.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Yn y Siop INFO, gall pobl ifanc hefyd ddefnyddio cyfrifiaduron cyhoeddus i chwilio am swyddi, creu CV a defnyddio’r rhyngrwyd, ac mae staff ar gael i’w helpu.
Mae’r staff yno i’ch helpu chi, nid eich barnu. Mae pob dim sy’n cael ei drafod yn aros yn gyfrinachol oni bai ein bod ni’n teimlo bod rhywun mewn perygl o niwed.
Mae’r siop hefyd yn gartref i nifer o wasanaethau defnyddiol, sy’n ei gwneud yn ‘siop un stop’.
Dyma’r gwasanaethau eraill sydd ar gael:
• Cyswllt: gwasanaeth iechyd rhyw gyda gweithwyr ieuenctid, meddygon a nyrsys.
• Gwasanaeth Cwnsela Outside In: cefnogaeth un i un pan fo pethau’n mynd yn drech na chi, a’ch bod chi angen trafod pethau â rhywun yn gyfrinachol.
• Gwasanaeth Eiriolaeth Ail Lais: os byddwch chi angen i rywun wrando arnoch chi.
• In2Change: cymorth â chyffuriau ac alcohol.
• Y Tîm Gadael Gofal: cefnogaeth i bobl ifanc mewn gofal.
Manylion Cyswllt
Siop INFO
Stryt y Lampint
LL11 1AR
Rhif Ffôn: 01978 295600
infoshop@wrexham.gov.uk
Oriau agor
Dydd Llun – 11.30am – 5.30pm
Dydd Mawrth 11.30am – 4.30pm
Dydd Mercher 11.30am – 5.30pm
Dydd Iau 11.30am – 4.30pm
Dydd Gwener 11.30am – 5.30pm
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION