Rydyn ni oll yn gwybod mor wych yw Amgueddfa Wrecsam.
Rydyn ni’n gwybod hefyd ei bod yn cystadlu â sefydliadau llawer iawn mwy wrth ddenu arddangosfeydd bendigedig o amgueddfeydd a chasgliadau eraill ledled y Deyrnas Gyfunol.
A does dim dwywaith fod ein hamgueddfa’n helpu miloedd o ymwelwyr i fwynhau a dysgu am hanes Wrecsam bob blwyddyn.
Felly rydyn ni’n gwybod yn iawn mor ardderchog yw’r lle.
Ond mae hi bob amser yn braf pan mae pobl yn cytuno â ni 🙂
Daeth asesydd i ymweld ag Amgueddfa Wrecsam yn ddiweddar fel rhan o’i waith yn arolygu atyniadau i ymwelwyr a rhoi sgôr iddynt yn ôl eu cryfderau.
Mae’n destun balchder mawr inni fod Amgueddfa Wrecsam wedi cael Gwobr Aur ar sail yr asesiad.
Sicrhau Ansawdd Atyniadau i Ymwelwyr
Bu’r Gwasanaeth Sicrhau Ansawdd Atyniadau i Ymwelwyr yn ymweld â’r amgueddfa’n ddiweddar, ar ran Croeso Cymru, corff twristiaeth Llywodraeth Cymru.
Yn sgil yr asesiad enillodd Amgueddfa Wrecsam statws Atyniad Sicr ei Ansawdd ar gyfer 2018/19 – sy’n cydnabod y gall ymwelwyr fod yn ffyddiog o gael diwrnod gwerth chweil yma.
Mae’r Gwasanaeth Sicrhau Ansawdd Atyniadau i Ymwelwyr yn bwrw golwg ar amrywiaeth o ffactorau wrth asesu atyniadau, gan gynnwys cynllun y lle, cyflwyniad, glanweithdra, arlwyo a staff – ac fe gafodd yr amgueddfa sgôr uchel ymhob categori, a chyfanswm o 96 y cant ar y diwedd.
Yn ôl ymateb y Gwasanaeth, mae’r amgueddfa “yn atyniad sy’n creu argraff fawr drwy ddefnyddio technoleg fodern i ennyn diddordeb ymwelwyr”.
Nid yw’r Wobr Aur ond yn mynd i “atyniadau sy’n cyflawni rhagoriaeth o ran eu cyfleusterau a’u gwasanaethau i gwsmeriaid” – felly mae hyn yn newyddion da dros ben i’r amgueddfa!
“Yn falch iawn o gael cydnabyddiaeth”
Meddai Steve Grenter, Arweinydd Treftadaeth ac Archifau Cyngor Wrecsam: “Wrth gwrs, rydyn ni’n falch iawn o gael cydnabyddiaeth gan y Gwasanaeth Sicrhau Ansawdd Atyniadau i Ymwelwyr – ac roedd cael sgôr mor uchel yn goron ar y cyfan.
“Mae hon yn wobr o fri, ond mae cael cydnabyddiaeth y Gwasanaeth Sicrhau Ansawdd hefyd yn cyfrannu at lawer o’r meysydd y mae Adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru’n eu hachredu – sy’n dangos bod popeth y gwnawn ni i wella ein statws fel atyniad yn rhoi hwb i’n statws ni fel amgueddfa hefyd.”
DWI ISIO MYNEGI FY MARN
DOES DIM OTS GEN I