Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
newyddion.wrecsam.gov.uk
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sut i baratoi eich busnes yng Nghymru ar gyfer Brexit
Rhannu
Notification Show More
Latest News
Digital Screens
Cynnig Sgriniau Digidol i helpu busnesau gyda hysbysebu
Y cyngor Busnes ac addysg
Climate change
Nodi pum cymuned carbon isel
Pobl a lle Busnes ac addysg
Arddangos Cwilt Gwych Arall o Wrecsam
Arddangos Cwilt Gwych Arall o Wrecsam
Y cyngor Pobl a lle
Illegal tobacco and cigarettes seized.
Hanner miliwn o sigaréts anghyfreithlon wedi’u hatafaelu yng Ngogledd Ddwyrain Cymru
Arall
Wales in Bloom
Rydym yn paratoi ar gyfer Cymru yn ei Blodau
Y cyngor Busnes ac addysg Pobl a lle
newyddion.wrecsam.gov.uk
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - Dydd Sadwrn, Mehefin 10
newyddion.wrecsam.gov.uk > Blog > Busnes ac addysg > Sut i baratoi eich busnes yng Nghymru ar gyfer Brexit
Busnes ac addysg

Sut i baratoi eich busnes yng Nghymru ar gyfer Brexit

Diweddarwyd diwethaf: 2018/11/15 at 4:19 PM
Rhannu
Darllen 7 funud
Wrexham Council news, Welsh Business, Brexit, Superfast Business Wales
RHANNU
Erthygl gwadd gan Cyflymu Cymru i Fusnesau

Wrth i Brexit agosáu, nawr yw’r amser y dylai busnesau Cymru fod yn cynllunio strategaethau i ymgysylltu, nid yn unig â’r marchnadoedd yn yr UE, ond â marchnadoedd newydd a fydd yn dod i’r amlwg o reidrwydd yn y dyfodol agos iawn.

Cynnwys
Erthygl gwadd gan Cyflymu Cymru i FusnesauAdolygu a diweddaru prosesau eich busnesMynd i’r afael ag iaithYstyriwch sut i reoli’r ffordd rydych chi’n cludo eich llwythiArchwiliwch sut gall technoleg gefnogi newidiadau i’ch busnes

Bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gofyn i’r DU ddatblygu cytundebau masnachu economaidd newydd gyda gwledydd yng ngweddill y byd – fel yr Unol Daleithiau, Tsieina, India a’r Gymanwlad.

Bydd sefydlu cytundebau masnachu gyda’r gwledydd hyn ond yn dod yn realiti ar ôl i’r DU adael yr UE yn swyddogol, a bydd yn hanfodol hefyd sefydlu cytundebau gyda gwledydd sydd eisoes â chytundeb masnachu â’r UE (y byddwn ni, wrth gwrs, yn ei adael ar ôl).

Hefyd, er yr ymddengys ei fod yn elfen o Brexit a chaiff ei hesgeuluso, bydd rhaid i’r gwledydd hyn fasnachu â’r DU, gan ein bod ni’n un o’r prif farchnadoedd ar gyfer y rhan fwyaf o wledydd, yn yr UE ai peidio. Bydd yr holl drefniadau hyn yn cymryd amser, ond mae’n debygol y bydd perthnasoedd masnachu’r DU ag Ewrop a gweddill y byd yn newid yn sylweddol dros y blynyddoedd nesaf.

- Cofrestru -
Get our top stories

Yn ei hanfod, bydd y byd yn dod yn her llawer mwy ac amrywiol i fusnesau cyn bo hir. Ond gallai hwn fod yn gyfle gwych i hybu elw, os byddwch chi’n cynllunio’n gywir ar gyfer y newid.

Adolygu a diweddaru prosesau eich busnes

Os yw’ch busnes yn mynd i wneud y mwyaf o Brexit, mae’n hanfodol eich bod chi’n dechrau cynllunio nawr – a dylech ddechrau trwy ddeall sut mae eich busnes yn gweithio.

Mae gan (neu dylai fod gan) bob busnes gynllun busnes – ond efallai bod cryn amser ers i chi eistedd i lawr a meddwl am sut mae eich busnes yn rhedeg o ddydd i ddydd.

Gall techneg syml o’r enw Modelu Prosesau Busnes eich helpu chi i symleiddio eich systemau a’ch gweithrediadau busnes presennol, ni waeth beth yw maint eich busnes.

Mae Modelu Prosesau Busnes yn ddull a ddefnyddir i wella effeithlonrwydd ac ansawdd busnes. Caiff ei arddangos yn aml fel diagram sy’n cynrychioli cyfres o weithgareddau. Yn nodweddiadol, mae’n dangos digwyddiadau, gweithrediadau, a chysylltiadau neu bwyntiau cyswllt, mewn trefn o un pen i’r llall.

Yn nodweddiadol, mae Model Prosesau Busnes yn cynnwys prosesau TG (gan gynnwys gwefannau, strategaethau cyfryngau cymdeithasol ac ati) a phrosesau pobl. Ei nod yw gwella perfformiad busnes trwy optimeiddio effeithlonrwydd gweithgareddau cysylltiol sy’n arwain at ddarparu cynnyrch neu wasanaeth.

Trwy fapio eich llif gwaith trwy’r dull hwn, gallwch ddechrau deall, dadansoddi a newid prosesau eich busnes yn gadarnhaol. Mae nifer o becynnau feddalwedd ar gael i ategu Modelu Prosesau Busnes, ond gellir cymhwyso’r egwyddorion sylfaenol gan ddefnyddio ysgrifbin a phapur (neu rolyn o bapur wal, gan ddibynnu pa mor gymhleth yw’ch busnes!).

Mynd i’r afael ag iaith

Cyn bo hir, efallai y byddwch chi’n symud i ardaloedd masnachu lle nad Saesneg (na Chymraeg!) yw’r lingua franca mwyach.

Mae’n hanfodol y gallwch chi gyfathrebu’n effeithiol gyda chwsmeriaid, cyflenwyr a phartneriaid busnes – ac mae nifer o ffyrdd y gallwch chi fynd i’r afael â’r rhwystr posibl hwn.

Gall offer fel cwmnïau cyfieithu ar y we a meddalwedd cyfieithu lleol fod yn ddefnyddiol. Fodd bynnag, er bod technoleg cyfieithu wedi gwella llawer dros y blynyddoedd diwethaf, mae’n fuddiol cael siaradwr rhugl neu gyfieithydd proffesiynol i wirio eich cyfathrebiadau hanfodol a’ch gwefannau i osgoi unrhyw gamgymeriadau neu gamsyniadau enfawr hyd yn oed!

Os ydych chi’n bwriadu gwneud busnes â phartneriaid neu gwsmeriaid mewn rhanbarth lle nad ydynt yn siarad Saesneg am gyfnod estynedig o amser, gall dysgu’r iaith arbed arian i chi o ran costau cyfieithu, a rhoi mantais i chi yn erbyn busnesau sy’n cystadlu. Mae yna gyfleusterau dysgu ar-lein ar gyfer y rhan fwyaf o’r prif ieithoedd ac, wrth gwrs, rhaglenni meddalwedd a all eich helpu chi i fod yn rhugl mewn iaith dramor.

Bydd parodrwydd i ddysgu iaith partner masnachol yn helpu’n fawr tuag at ei gwneud hi’n haws symud i farchnad lawer ehangach.

Ystyriwch sut i reoli’r ffordd rydych chi’n cludo eich llwythi

P’un ai ar gyfer eich marchnad neu eich cyflenwyr, bydd angen i chi allu symud eich cynhyrchion ar draws ffiniau (ffisegol neu artiffisial). Mae derbyn ac olrhain llwythi yn gofyn am ystyriaeth a chynllunio gofalus iawn.

Ar ôl i chi amlygu eich marchnad, gall systemau rheoli logisteg helpu ddwyn pwysau’r problemau ynghylch cludo llwythi rhyngwladol. Gall technoleg olrhain fod o help enfawr hefyd i sicrhau bod eich dosbarthiadau’n cyrraedd ar amser, ac i’r lleoliadau cywir.

Gall hyn arbed amser, arian ac, yn bwysicaf oll, cwsmeriaid!

I ddarparu’r dulliau mwyaf effeithlon, mae technoleg olrhain llwythi electronig eisoes ar gael, a all helpu i gynllunio llwybrau masnachu, monitro unrhyw gyfyngiadau masnachol, ac olrhain llwythi.

Archwiliwch sut gall technoleg gefnogi newidiadau i’ch busnes

Wrth i chi gynllunio ar gyfer Brexit, archwiliwch rai o’r ffyrdd eraill y gall technoleg eich helpu i dyfu, p’un ai trwy ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid gwell, gwella eich logisteg, neu eich helpu i gyfathrebu â’ch cwsmeriaid. Gallwch gyfeirio’n ôl at eich gweithgareddau Modelu Prosesau Busnes i amlygu pwyntiau allweddol a allai elwa ar brosesau awtomatig neu ddigidol.

Pan rydych chi yng nghanol eich busnes, gall fod yn anodd edrych ar bethau sydd angen i chi eu newid neu eu gwella yn wrthrychol, felly bwrwch olwg ar sut gallwn eich helpu chi trwy greu cynllun gweithredu digidol pwrpasol, manwl, i roi camau clir a chyngor i chi ar dyfu eich busnes. Mae’n rhad ac am ddim – felly cofrestrwch eich busnes heddiw!

Bydd cymryd amser nawr i adolygu a diweddaru eich prosesau yn cyfrannu at lwyddiant eich busnes yn y dyfodol, ar ôl Brexit.

Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau yn wasanaeth cymorth busnes am ddim sy’n helpu busnesau bach a chanolig cymwys yng Nghymru i fanteisio ar dechnoleg ar-lein.

COFRESTRWCH RŴAN

 

Rhannu
Erthygl flaenorol Football Museum Ein hamgueddfa ni – mae’n werth ei phwysau mewn aur
Erthygl nesaf Gig John Fairhurst yn Nhŷ Pawb Gig John Fairhurst yn Nhŷ Pawb

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Digital Screens
Cynnig Sgriniau Digidol i helpu busnesau gyda hysbysebu
Y cyngor Busnes ac addysg Mehefin 8, 2023
Climate change
Nodi pum cymuned carbon isel
Pobl a lle Busnes ac addysg Mehefin 8, 2023
Arddangos Cwilt Gwych Arall o Wrecsam
Arddangos Cwilt Gwych Arall o Wrecsam
Y cyngor Pobl a lle Mehefin 8, 2023
Illegal tobacco and cigarettes seized.
Hanner miliwn o sigaréts anghyfreithlon wedi’u hatafaelu yng Ngogledd Ddwyrain Cymru
Arall Mehefin 8, 2023

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Digital Screens
Y cyngorBusnes ac addysg

Cynnig Sgriniau Digidol i helpu busnesau gyda hysbysebu

Mehefin 8, 2023
Climate change
Pobl a lleBusnes ac addysg

Nodi pum cymuned carbon isel

Mehefin 8, 2023
Wales in Bloom
Y cyngorBusnes ac addysgPobl a lle

Rydym yn paratoi ar gyfer Cymru yn ei Blodau

Mehefin 7, 2023
New city - new career. Work for Wrexham Council
Busnes ac addysg

Eisiau gweithio yn Wrecsam? Allech chi wneud unrhyw un o’r swyddi hyn?

Mai 19, 2023
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Fy Niweddariadau
  • Hysbysiadau awtomatig
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Cofrestru
newyddion.wrecsam.gov.uk
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cofrestru
Prif storiau - tanysgrifwch!

Peidiwch â methu’r newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Sign up
Rhowch gynnig arno! Gallwch ddatdanysgrifio ar unrhyw adeg.

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English