Hoffech chi chwarae rhan yn y gwaith o wella Wrecsam?
Sut hoffech chi i Wrecsam fod ar eich cyfer chi eich hun, eich teulu, a chenedlaethau’r dyfodol?
Mae gennych gyfle i wneud gwahaniaeth, i ddweud eich dweud, a dweud wrthym sut yr hoffech chi i Wrecsam fod yn y dyfodol. Llenwch ein harolwg Ein Wrecsam Ni, Ein Dyfodol Ni a bydd yr atebion a roddwch, ynghyd ag ymchwil a data, yn cael eu defnyddio i greu asesiad llesiant, a fydd yn y dyfodol yn llywio ein cynllun llesiant. Bydd y cynllun hwn wedyn yn cael ei ddefnyddio i wneud newidiadau a llywio penderfyniadau dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Mae cwestiynau’r arolwg yn cael eu gofyn gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus – sy’n cynnwys sefydliadau sector cyhoeddus. Maent yn canolbwyntio ar saith nod lles er mwyn archwilio sut yr ydych chi’n meddwl y gallai Cymru ddod yn fwy llewyrchus, yn iachach, ac yn gryfach. Cymerwch olwg ar y cyflwyniad i’r arolwg er mwyn dod i wybod mwy am y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, y Nodau Lles, a sut y gallwch chi ddweud wrthym beth sy’n bwysig i chi.
Er mwyn cymryd rhan yn yr arolwg, cliciwch yma.
Gellir ateb yr arolwg rhwng 20 Medi a 1 Tachwedd.
Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad ar gael ym mis Ionawr 2022, a chewch gyfle arall bryd hynny i ddweud eich barn wrthym. Yn dilyn hynny, bydd yr Asesiad Llesiant yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai 2022.
Y flwyddyn ganlynol, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i gynhyrchu cynllun llesiant y gallwn weithio arno gyda’n gilydd. Bydd llawer o gyfleoedd i gymryd rhan a dweud eich dweud, felly gwyliwch y gofod.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN