Gyda’r disgwyl o tywydd oer wythnos yma, efallai eich bod yn meddwl pa ysgolion fydd ar agor? A fydd y bysys dal yn rhedeg? A fydd fy miniau yn cael eu gwagio? A fydd y ffyrdd yn cael eu graeanu?
Gall tywydd oer achosi problemau ar draws y fwrdeistref sirol a hyd yn oed ar draws y DU, yn enwedig mewn tywydd eithriadol o wael. Rydym wedi paratoi, a thrwy gydol cyfnod y gaeaf ac at y gwanwyn, mae gennym ragolygon tywydd lleol dyddiol. Pan fyddwn ni’n derbyn y rhagolygon rydym ni’n penderfynu a oes angen anfon y cerbydau graeanu allan neu beidio. Os oes angen, mae gennym ni fflyd o gerbydau a digonedd o raean i ymdopi.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
“Caiff y priffyrdd eu clirio mor fuan â phosibl”
Fel pob awdurdod lleol arall, nid ydym ni’n graeanu na symud yr eira oddi ar bob ffordd, ond rydym ni’n sicrhau bod ein priffyrdd yn cael eu clirio cyn gynted â phosibl. Gall hyn fod yn anodd weithiau yn enwedig os ydi’r eira yn parhau i ddisgyn. Gallwch weld ein llwybrau graeanu yma.
“Fe fyddwn yn graeanu cyn i ni wagio biniau mewn ystadau tai”
Gall tywydd oer achosi amhariadau i’ch gwasanaeth bin gan fod gyrru cerbyd mawr ar lonydd cul yn gallu bod yn beryglus i’r gweithlu ac i’r cyhoedd. Fe gaiff casgliadau bin eu hatal mewn ardal benodol o dro i dro am y rheswm yma. Pan allwn ni, rydym ni’n anfon y cerbyd graeanu allan cyn y lori biniau i sicrhau y gallwn ni barhau cyn hired â phosibl.
“Cau ysgolion”
Fe all ein hysgolion gael eu cau oherwydd y tywydd, fe allant benderfynu bod yr ardal yn beryglus i blant neu efallai na allant gael digon o staff i’w weithredu’n ddiogel. Os penderfynir cau’r ysgolion, mae gwybodaeth i’w weld ar ein gwefan yma:
Efallai bod eich plentyn yn teithio i’r ysgol ar fws ac fe ddylech sicrhau eich bod yn gwybod gyda pha gwmni y maent yn teithio, ac fe ddylech gadw eu rhif ffôn, e-bost neu fanylion eu cyfrif cyfryngau cymdeithasol wrth law i wirio’n uniongyrchol gyda nhw os ydynt yn gweithredu eu gwasanaeth arferol.
Os na allwn ni ddod i wagio eich biniau, fe fyddwn ni’n defnyddio ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i’ch hysbysu cyn gynted â phosibl.
twitter.com/cbswrecsam | twitter.com/wrexhamcbc
facebook.com/cyngorwrecsam | facebook.com/wrexhamcouncil
Defnyddiwch #wxmgrit i weld os fydd ein graeanwyr yn mynd allan.Helpwch lle gallwch.
Helpwch lle gallwch
Cynghorir trigolion hefyd i wirio bod eich cymdogion yn iawn – yn arbennig unrhyw drigolion hŷn, anabl neu rai sy’n agored i niwed.
Dim ond pum munud mae’n ei gymryd i helpu, ond gall gwyntoedd cryfion, rhew ac eira fod yn anodd i bobl agored i niwed wrth iddynt geisio gwneud tripiau dyddiol hawdd, fel picio i’r siopau neu’r swyddfa bost.
Gallai galw heibio’n sydyn neu gynnig help wneud gwahaniaeth mawr i rywun nad ydynt yn gallu mynd allan ar eu pen eu hunain.
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae llawer o bobl yn ein cymunedau sy’n cael trafferth yn ystod y misoedd oerach, ac ni ddylem danamcangyfrif faint o wahaniaeth y gall rhywbeth bach ei wneud i fywyd rhywun.
“Mae cymaint o ffyrdd hawdd i helpu – helpu gyda siopa, mynd â phryd o fwyd poeth neu dim ond galw mewn am sgwrs. Rydym yn gofyn i breswylwyr gymryd dim ond ychydig o funudau i alw heibio gymdogion, ffrindiau a pherthnasau.”
COFIWCH EICH BINIAU
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.