Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Eisiau dweud eich dweud am y mannau agored yn Wrecsam?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Eisiau dweud eich dweud am y mannau agored yn Wrecsam?
ArallPobl a lleY cyngor

Eisiau dweud eich dweud am y mannau agored yn Wrecsam?

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 28, 2023 3:17 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Fruit orchard Ty Mawr
RHANNU

Beth yw mannau agored?

Diffinnir mannau agored fel unrhyw fan awyr agored sydd yn cael ei ystyried i fod â gwerth cyhoeddus. Gall yr holl fannau hyn ddarparu cyfleoedd iechyd, lles a hamdden i bobl sydd yn byw gerllaw, yn ogystal â darparu gwerth ecolegol i amrywiaeth o rywogaethau. Gall y term mannau agored gynnwys rhywbeth mor fach â llain ymyl ffordd, i ardal mor fawr â pharc gwledig.

Pwy sy’n rheoli’r mannau agored yn Wrecsam?

Mae’r mannau agored ar draws Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cael eu llywodraethu gan sawl darn o ddeddfwriaeth, ac un o’r rhannau mwyaf pwysig ynddynt yw rhwymedigaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i wella’r amgylchedd naturiol.

Daw hyn o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae’r Ddeddf gyntaf yn canolbwyntio ar wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, ac mae’r ail Ddeddf yn canolbwyntio ar sicrhau ecosystemau iach, gwydn a chynhyrchiol.

Ein Gweledigaeth

Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn le gydag ystod amrywiol o fannau agored sy’n hygyrch ac yn cael eu rheoli’n briodol (yn ôl eu defnydd bwriadol) er mwyn sicrhau eu bod yn lân, yn ddiogel, yn addas i’r diben ac yn darparu’r cyfleoedd gorau ar gyfer effeithiau amgylcheddol cadarnhaol. Mae gennym ni sawl amcan, a phan fyddwn ni wedi’u cyflawni, bydd yn golygu manteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.

Dweud eich dweud

Mae pawb yn elwa o fod â mynediad at fannau agored ar draws y Sir, felly mae hi’n bwysig eich bod yn dweud eich dweud am sut mae ein mannau agored yn cael eu rheoli a’u gweithredu, ac i roi adborth am y modd y maent yn cael eu rhedeg ar hyn o bryd. Gallwch ddweud eich dweud drwy fynd i wefan ‘Eich Llais’ a llenwi’r arolwg.  Ni ddylai gymryd mwy na 10 munud i chi ei lenwi. 

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae ein mannau agored a sut rydym yn eu defnyddio yn rhan bwysig o’n cymunedau, yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae ein barn ar sut y dylent edrych a chael eu defnyddio wedi newid ac mae’n bwysig ein bod yn cael dealltwriaeth gyfoes o’r hyn rydych chi’n ei ystyried yn bwysig a sut yr hoffech iddynt gael eu defnyddio. “Gwnewch eich barn yn hysbys drwy ymateb i’n harolwg sy’n rhedeg rhwng Gorffennaf 21ain a Medi 1af.”

TAGGED:Mannau Agoredwrecsam
Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Markets new home on Queens Square Mae Marchnadoedd Wrecsam wedi mudo
Erthygl nesaf Football Cadwch y plant yn actif yr wythnos hon

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English