Eisiau gweithio yn Wrecsam? Allech chi wneud unrhyw un o’r swyddi hyn?

Work for Wrexham Council

Efallai mai eich swydd nesaf fydd gweithio i Gyngor Wrecsam? Mae mwy o swyddi wedi eu hychwanegu i’n tudalen swyddi gwag diweddaraf, felly os nad ydych wedi cael golwg ers tro, mae’n werth cael golwg nawr.

Yn aml, mae swyddi gwag mewn addysg, tai, glanhau, gwasanaethau i gwsmeriaid, TG a gofal cymdeithasol, i enwi ond y rhai!

Gall gweithio i’r cyngor fod yn ddewis gyrfaol da – mae fel arfer yn cynnwys pensiwn, lwfans gwyliau da, a sefydlogrwydd cymharol.

Dyma rai o’n swyddi diweddaraf a fyddai efallai o ddiddordeb i chi 🙂

GWELD Y SWYDDI DIWEDDARAF

Gweithio ym maes gofal cymdeithasol

Os ydych chi’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, neu’n meddwl gwneud, mae nifer o gyfleoedd i ddatblygu eich gyrfa yng Nghyngor Wrecsam. Edrychwch ar y swyddi hyn…

Swyddi Addysg ac Ymyrraeth Gynnar

Allech chi weithio ym maes Addysg ac Ymyrraeth Gynnar? Mae gennym gyfleoedd swyddi gwych, felly os oes gennych chi’r sgiliau, cymrwch olwg ar y rhain…

Swyddi yn ysgolion Wrecsam

Mae cyfleoedd gwych i weithio mewn ysgolion ar draws Wrecsam. Allech chi wneud unrhyw un o’r swyddi hyn? Cewch fwy o wybodaeth isod…

Swyddi’r Amgylchedd a Thechnegol

Mae ein hadran yr Amgylchedd a Thechnegol yn recriwtio ac mae swyddi gwych i’w llenwi ar hyn o bryd. Edrychwch ar y swyddi hyn…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://saas.zellis.com/wrexham/wrl/?language=cy “] GWELD Y SWYDDI DIWEDDARAF [/button]