Ydych chi eisiau lleihau eich biliau nwy neu drydan?
Bydd gan sioe deithiol sy’n dod i Wrecsam yn ddiweddarach y mis hwn lawer o gyngor ichi ynghylch sut i leihau eich biliau ac arbed ychydig o arian.
Mae Wythnos Fawr Arbed Ynni yn para o ddydd llun 21 Ionawr tan ddydd Gwener 25 Ionawr.
Yn ystod yr wythnos bydd Groundwork Gogledd Cymru – mewn partneriaeth â Chyngor Ar Bopeth – yn cynnal sioe deithiol ledled Sir y Fflint a Wrecsam, gyda’r Bws Mawr Arbed Ynni yn dod i Wrecsam ddydd Iau 24 Ionawr.
Bydd y bws yn dod i nifer o leoliadau yn Wrecsam ar 24 Ionawr, gan alw ym Mhartneriaeth Parc Caia am 9am; Canolfan Ymwelwyr Bangor Is-y-coed am 11am; Neuadd y Pentref Owrtyn am 1pm a Chanolfan Hamdden Plas Madoc am 3pm.
Bydd ymgynghorwyr ar y bws i roi cyngor ynghylch leihau biliau, ynghyd â chynrychiolwyr o ddarparwyr a gwasanaethau, gan gynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Cymru Gynnes, Nyth, Hafren Dyfrdwy, Dŵr Cymru a mwy.
Bydd yna nifer o ddigwyddiadau un-tro llai hefyd yn digwydd ledled y rhanbarth yn ystod yr wythnos.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR