Ein hoff eliffant clytwaith, Elfed, fydd seren yr wythnos yn Llyfrgell Wrecsam dros hanner tymor mis Mai wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 30 oed.
Yn ystod gwyliau hanner tymor bydd llwyth o grefftau a gemau yn cael eu trefnu a bydd modd i blant wneud fflagiau Elfed a chlustiau Elfed, gosod y gynffon ar Elfed yn ogystal â chymryd rhan mewn helfa drysor ar thema Elfed.
ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?
Bydd dau amser stori Elfed yn cael eu cynnal hefyd – 28 Mai 2pm tan 2.30pm a 30 Mai 2pm tan 2.30pm (dwyieithog) i chi gael cyfle i wir fwynhau straeon Elfed yr Eliffant.
Mae Elfed yr Eliffant, sef cymeriad llyfrau’r awdur Prydeinig David McKee, yn cael ei ben-blwydd yn 30 oed ar 25 Mai ar ôl cael ei gyhoeddi am y tro cyntaf yn 1989. Ers hynny mae wedi dod yn gymeriad adnabyddus i filiynau o aelwydydd ledled y byd.
Mae Elfed yn annog plant i dderbyn gwahaniaethau pobl eraill ac arfer goddefgarwch a charedigrwydd.
Gwisgwch ddillad lliwgar a dewch draw i ymuno â ni i ddathlu pen-blwydd yr eliffant clytwaith sy’n ffrind i bawb!
DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU