Mae system Rhybudd Argyfwng newydd Llywodraeth y DU bellach yn fyw a bydd yn cael ei brofi’n genedlaethol ar 23 Ebrill.
Bydd y system yn galluogi cyswllt gyda phobl trwy ffôn symudol sy’n cydweddu, pan fydd bywydau mewn perygl a bydd yn cael ei ddefnyddio i’ch rhybuddio chi mewn digwyddiadau argyfyngus megis llifogydd difrifol.
Beth ddylwn wneud pan fyddaf yn derbyn y Neges Destun Cenedlaethol?
Pan fyddwch yn derbyn Neges Croeso nid oes angen i chi wneud dim. Byddwch yn clywed seiren a fydd yn stopio’n awtomatig ar ôl deg eiliad. Bydd neges croeso yn aros ar y sgrin tan i chi ei gydnabod, yn debyg iawn i rybudd batri isel.
Ar ôl y prawf, bydd y Rhybuddion Argyfwng ond yn cael eu hanfon i holl ffonau symudol sy’n cydweddu, mewn ardal sydd mewn perygl o fygythiad difrifol megis llifogydd difrifol. Nid ydynt yn olrhain eich lleoliad, angen eich rhif ffôn, nac yn casglu data personol. Dim ond y llywodraeth a’r gwasanaethau brys fydd yn gallu eu hanfon. Os nad oes gennych ffôn symudol, byddwch yn parhau i gael eich hysbysu drwy sianeli eraill.
Os ydych yn derbyn Rhybudd Argyfwng ar eich ffôn yn y dyfodol, byddwch yn clywed sŵn fel seiren. Bydd neges ar eich sgrin yn rhoi gwybod am yr argyfwng a sut i ymateb orau. Byddwch yn gallu gwirio os yw’r rhybudd yn ddilys yn gov.uk/alerts.
Os ydych yn derbyn rhybudd, darllenwch y rhybudd yn ofalus a dilynwch y cyfarwyddiadau.
Alla i ddatdanysgrifio o’r rhybuddion argyfwng?
Gallwch optio allan o’r system rhybuddion argyfwng drwy osodiadau eich ffôn. Chwiliwch am “emergency alerts” a diffoddwch y “severe alerts” a’r “extreme alerts”. Ni fyddwch yn derbyn rhybuddion os fydd eich dyfais wedi ei ddiffodd neu ar osodiad awyren. Fodd bynnag, gall y rhybuddion hyn achub bywydau, felly argymhellwn i chi eu cadw ymlaen.
Os ydych yn gyrru neu’n reidio pan fyddwch yn derbyn rhybudd
- Ni ddylech ddarllen neu ymateb i rybudd argyfwng wrth yrru neu reidio beic modur.
- Os ydych yn gyrru, dylech barhau i yrru a pheidio ag ymateb i’r sŵn neu geisio codi eich ffôn symudol a delio â’r neges.
- Dewch o hyd i rywle diogel a chyfreithiol i stopio cyn darllen y neges. Os nad oes unrhyw le diogel neu gyfreithiol i stopio gerllaw, ac os nad oes unrhyw un arall yn y cerbyd i ddarllen y rhybudd, gwrandewch ar y radio byw ac aros ar gyfer y bwletinau tan i chi ddod o hyd i rywle diogel a chyfreithiol i stopio.
Mae’n anghyfreithiol defnyddio dyfais llaw wrth yrru neu reidio.
Gallwch ddarganfod mwy am y Rhybuddion Argyfwng yma.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD