Mae canolfannau hamdden yn Wrecsam sy’n cael eu gweithredu gan Freedom Leisure, wedi gwneud mesurau arbed ynni yn ddiweddar a fydd yn arbed swm enfawr o 69 tunnell o Allyriadau Carbon yn flynyddol. Mae hyn yn hafal â char yn gyrru 261,500 milltir, sef o Wrecsam i Hollywood 50 o weithiau bob blwyddyn!
Ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, cafodd effeithlonrwydd ynni ei ddynodi a’i weithredu ar draws y canolfannau hamdden gan ddarparu arbedion ariannol a charbon am flynyddoedd i ddod. Ymhlith y blaenoriaethau:
- Paneli solar ffotofoltaig a gosodiadau batri yn Gwyn Evans, Y Waun a Queensway.
- Arloeswyr mewn gwell triniaeth o aer ac ymhlith y canolfannau hamdden cyntaf ledled y DU i osod ffaniau dad-haeniad yn Gwyn Evans, Byd Dŵr, a’r Waun
- Gwell gorchuddion pwll yn Gwyn Evans, Y Waun, Byd Dŵr, Clywedog a Rhosnesni
- Uwchraddio pwmpiau cylchrediad pwll yng Nghlywedog a Rhosnesni, gydag amrywiol yriant cyflymder sy’n golygu y gallant redeg ar gyflymder arafach
- Uwchraddio goleuo LED ar y maes chwarae 3G ym Morgan Llwyd
Cafodd y mesurau arbed ynni sylweddol hyn yn Wrecsam eu cefnogi gan Chwaraeon Cymru a Rhaglen Gydweithredu Cymru ar Asedau gyda thros hanner miliwn o bunnoedd o fuddsoddiad, yn arwain at arbediad blynyddol o dros 223,000kW o drydan a 106,000kW o nwy.
Dywedodd Brian Davies, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru: “Mae’r argyfwng costau byw, ar y cyd â’r argyfwng hinsawdd, yn ei gwneud yn fwy pwysig nag erioed i fuddsoddi mewn cyfleusterau canolfannau hamdden sy’n cael eu gwerthfawrogi gymaint gan y cymunedau yn maen nhw’n eu gwasanaethu.
“Bydd pob un o’r mesurau hyn yn lleihau costau rhedeg hir dymor yn sylweddol mewn cyfleusterau hamdden ledled Wrecsam, ac yn eu galluogi i fod yn fwy cynaliadwy yn ariannol gan barhau i ddarparu gweithgareddau fforddiadwy i bobl leol.”
“Greu canolfannau hamdden cynaliadwy”
Dywedodd Angela Brown, Pennaeth Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd yn Freedom Leisure “Mae ein hymrwymiad at effeithlonrwydd ynni yn ganolog i’n cenhadaeth o greu canolfannau hamdden cynaliadwy ac arwain drwy esiampl ochr yn ochr â’n partner, y cyngor. Wrth optimeiddio ein defnydd o ynni, rydym ni’n sicrhau bod ein cyfleusterau’n cynhyrchu llai o garbon, gan ddyfod yn fwy cost effeithlon ac wedi eu halinio â dyfodol gwyrddach”
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Datgarboneiddio:, “Mae hwn yn gynnydd sylweddol i sicrhau bod ein hagenda datgarboneiddio yn mynd rhagddo’n rhwydd. Lleihau ein hôl-troed carbon yw un o’n blaenoriaethau corfforaethol ac rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfranogi at weld y prosiect hwn yn dwyn ffrwyth.”
Nid yw Freedom Leisure, sef un o ymddiriedolaethau hamdden nid er elw elusennol arweiniol sy’n gweithredu 120+ lleoliad hamdden a diwylliannol ledled y DU, yn rhoi’r gorau iddi yn y fan honno! Mae gwelliannau pellach wedi cael eu cynllunio dros y flwyddyn a ddaw sy’n dod i chwarter miliwn o bunnoedd o fuddsoddiad mewn gwelliannau pellach yn Wrecsam yn unig.
Mae’r gwelliannau lleol hyn, a’r rhai a wnaed mewn mannau pellach i ffwrdd ledled y DU i gyd yn cyfrannu tuag at nod Freedom Leisure o ddyfod yn Sero Net erbyn 2030 gan sicrhau y byddant yn gallu parhau i wella bywydau drwy hamdden am flynyddoedd maith i ddod
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Grant Cymunedol Wrecsam Egnïol – hyd at £1,000 ar gael!
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch