Rydym wedi derbyn Gwobr Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwr mawreddog am ein cefnogaeth eithriadol i’r gymuned lluoedd arfog.
Mae’n cael ei ddyfarnu gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn ac yn rhoi cydnabyddiaeth ffurfiol i sefydliadau sy’n cyflogi ac yn weithgar wrth gefnogi’r rheiny sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd.
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Er mwyn ennill y wobr Aur mae’n rhaid i sefydliadau ddarparu 10 diwrnod gwaith ychwanegol â thâl i filwyr wrth gefn a bod ganddynt bolisïau AD cefnogol ar waith ar gyfer Cyn-filwyr, Milwyr Wrth Gefn, Gwirfoddolwyr y Cadetiaid sy’n oedolion a gwŷr/gwragedd a phartneriaid y rhai sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.
Rhaid i sefydliadau hefyd eirioli fanteision cefnogi’r rhai yng nghymuned y Lluoedd Arfog, drwy annog eraill i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog a chymryd rhan yn y Cynllun Cydnabod Cyflogwr.
Meddai’r Cynghorydd Beverley Parry Jones, Cefnogwr Lluoedd Arfog, “Mae derbyn y wobr hon ar ran y cyngor wedi bod yn achlysur balch iawn. Mae’n gydnabyddiaeth o’r holl waith caled sydd wedi digwydd yn y cefndir ers i ni lofnodi’r Cyfamod Lluoedd Arfog gyda’n partneriaid nol yn 2013.
“Byddwn yn parhau i weithio gyda’n cymuned lluoedd arfog i gydnabod eu gwasanaeth i’n gwlad.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI