Mae FOCUS Wales wedi cael ei henwebu am wobr arall, a’r tro yma yng Ngwobrau Gwyliau Ewrop 🙂
Maen nhw wedi cael eu henwebu fel yr Ŵyl Dan Do Orau ac rydyn ni’n meddwl mai nhw ydi’r ymgeiswyr gorau erioed!
Mae gwyliau llwyddiannus yn ymuno â nhw fel enwebiadau mewn categorïau eraill, gan gynnwys Lollapalooza, Rock Werchter a Glastonbury
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Bob blwyddyn, mae FOCUS Wales yn dod â degau o filoedd o ymwelwyr o bob cwr o’r byd i Wrecsam i lenwi lleoliadau yng nghanol y dref, sy’n dod yn fyw yn sŵn y gerddoriaeth. Mae’r gwestai’n dweud eu bod nhw’n llawn a gall gwerthwyr fanteisio ar y niferoedd uwch a fydd yn y dref.
Mae’r Gymraeg hefyd yn cael ei dathlu yn yr Hwb – tipi mawr ar Sgwâr y Frenhines sy’n rhoi lle i berfformwyr Cymraeg eu hiaith. Mae’n lleoliad poblogaidd iawn ac mae pobl yn mwynhau ymarfer eu sgiliau Cymraeg wrth gyfarfod â phobl newydd.
Dywedodd Joe Bickerton, Rheolwr Prosiectau Adfywio: “Dylem ni i gyd fod yn falch iawn o FOCUS Wales. Mae hi’n dod â miloedd o ymwelwyr i ganol y dref, sydd hefyd yn dod â chwsmeriaid ar gyfer y diwydiannau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu. Mae’r trefnwyr yn frwd dros yr hyn maen nhw’n ei wneud ac maen nhw hefyd yn cyflwyno Wrecsam a Chymru i’r gymuned gerddoriaeth ryngwladol. Maen nhw’n haeddu ein cefnogaeth ac fe fyddaf i’n dangos hynny trwy bleidleisio drostyn nhw.”
Y flwyddyn nesaf, bydd yn 10 mlwyddiant ar yr ŵyl, sydd wedi mynd o nerth i nerth bob blwyddyn. Mae 50 o berfformwyr wedi’u henwi’n barod, gyda Gruff Rhys, Super Furry Animals fel y brif act. Gallwch ddarllen mwy am hynny isod.
Os hoffech chi bleidleisio drostyn nhw, gallwch wneud hynny trwy glicio ar y botwm isod:
PLEIDLEISIO RŴAN
Am fwy o wybodaeth am FOCUS Wales ac i gael eich tocynnau, gallwch fynd i http://www.focuswales.com/
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN