Erthyl Gwadd- Dathlu Teuluoedd y Lluoedd
A wyddoch chi am aelod o deulu milwrol y DU sydd wedi gwneud rhywbeth rhyfeddol i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog? Gallwch yn awr eu henwebu am wobr yn y gwobrau Dathlu Teuluoedd y Lluoedd (CFF) cyntaf! Bydd y noson yn cael ei chynnal nos Wener 29ain Ebrill 2022 yn y Victory Services Club, Llundain. Darllenwch ymlaen i ddarganfod y categoriau a sut y gallwch enwebu. Y dyddiad cau ar gyfer enwebu yw dydd Gwener 4ydd Mawrth.
Mae’r noson wobrwyo tei ddu hon yn cael ei threfnu i ddiolch am, a chanolbwyntio ar, y cyfraniad enfawr y mae teuluoedd milwrol y DU yn ei roi i gymuned gyfan y Lluoedd Arfog, ac mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn cefnogi’r digwyddiad drwy ei Grŵp Llywio Cyflogaeth Partner. Bydd yn digwydd yn Llundain yn y Victory Services Club nos Wener 29ain Ebrill 2022, lle bydd yr enwebeion oddi ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i fod yn rhan o Noson Wobrwyo i’w chofio. Bydd tocynnau ar werth i fynychu’n unigol neu fesul byrddau o 10.
Sut i enwebu
Yn syml, ewch i’r dudalen Gwobrau CFF ar-lein i ddewis eich categori ac yna pwyswch y botwm ‘Enwebu’ ar gornel dde uchaf y dudalen i gael at y ffurflen.
Gall enwebiadau gydnabod gweithredoedd syml o garedigrwydd neu adnabod rhywun sydd wedi goresgyn adfyd trwy brofiad bywyd allweddol. Gallech hefyd enwebu busnes sy’n cael ei redeg gan aelod o deulu milwrol tra’n byw bywyd symudol. Neu efallai dathlu cyflogwr sy’n gyfeillgar i’r lluoedd sy’n ceisio cyflogi aelodau teulu’r rhai sy’n gwasanaethu.
Gadewch inni glywed y straeon cyfraniad anhygoel hynny y gwyddom sydd ar gael!
Y gwobrau
Aelod teulu ysbrydoledig y flwyddyn – ein prif wobr
Mae hyn ar gyfer rhywun sydd wedi mynd yr ail filltir fel aelod o deulu cymuned y Lluoedd Arfog. Ac, o ganlyniad i’w hymdrechion, maen nhw hefyd wedi helpu i ysbrydoli eraill.
Gwobr pobl ifanc: Rhoi yn ôl i gymuned y Lluoedd Arfog
Ar gyfer plentyn rhywun sy’n gwasanaethu sydd wedi rhoi o’i amser a’i egni er lles cymuned y Lluoedd Arfog.
Gwirfoddolwr teuluol y flwyddyn
Gallai hwn fod yn deulu milwrol neu’n aelod unigol o’r teulu o unrhyw oedran sydd wedi gwirfoddoli tuag at achos y Lluoedd Arfog.
Goresgyn adfyd
Gwobr i aelod o deulu milwrol sydd wedi profi a chael llwyddiant er gwaethaf byw trwy ddigwyddiad anffodus, profi anawsterau neu heriau. Gall heriau fod yn rhai meddyliol, emosiynol neu gymdeithasol – neu’r tri!
Elusen deuluol filwrol y flwyddyn
Elusen sydd wedi rhoi cymorth rhagorol i deuluoedd y Lluoedd Arfog yn ystod 2021.
Dylanwadwr cyfryngau cymdeithasol y flwyddyn
I rywun sy’n rhan o’r teulu milwrol, sydd â dros 5k o ddilynwyr ar blatfform ac sydd wedi bod yn allweddol wrth ledaenu’r gair a chefnogi cymuned y Lluoedd Arfog trwy gyfryngau cymdeithasol.
Eiriolwr(wyr) Lluoedd Arfog y flwyddyn
Mae’r enillydd yn cefnogi’r Lluoedd Arfog yn gyhoeddus ac yn gadarnhaol. Gallai hyn fod yn ysgol, grŵp/clwb, teulu neu unigolyn!
Perchennog busnes bach y flwyddyn
Ar gyfer aelod o deulu milwrol sydd wedi sefydlu ei fusnes ei hun oherwydd natur ffordd o fyw symudol yn y Lluoedd Arfog a’i wneud y gorau y gall fod, ni waeth pa faint.
Cyflogwr Canmoladwy’r flwyddyn sy’n gyfeillgar i’r Lluoedd Arfog
Ar gyfer cyflogwr sydd wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, sy’n defnyddio Forces Families Jobs ac sy’n mynd ati i chwilio am a chefnogi cyflogi partneriaid y rhai sy’n Gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.
Diolch i’n noddwyr
Ni fyddem wedi gallu cynnal y digwyddiad hwn heb gefnogaeth a nawdd hollbwysig ein noddwyr; pob un ohonynt wedi arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog. Byddwn yn rhannu mwy am bob un o’r sefydliadau hyn maes o law:
- Noddwr pennawd, Parkdean Resorts
- Noddwr derbynfa, Harrison Clark Rickebys
- Noddwyr cyfryngau, BFBS
- Noddwyr gwobrau: Parkdean Resorts, Anglia Ruskin University, Right Management, Naval a’r RAF Families Federations, Defence Discount Service, Marks & Spencer a Supporting the Unsung Hero
- Côr Gwragedd Milwrol: Barclays
Cwrdd â’n cyflwynwyr
Bydd pob gwobr yn cael ei chyhoeddi gan ein cyflwynydd gwadd, Richard Jones – tyr unig Gonsuriwr i ennill Britain’s Got Talent ochr yn ochr â’r Darlledwr BFBS, Amy Casey sydd hefyd yn Lluoedd Wrth Gefn yr Awyrlu Brenhinol yn ei hamser sbâr. Bydd y ffefryn hoffus Peter Dickson hefyd yn darparu sylwebaeth lais y noson.
Cwestiynau?
Cysylltwch â’r Tîm Digwyddiadau CFF yn info@celebratingforcesfamilies.
Dilynwch y digwyddiad yn fyw ar Facebook a Instagram @celebratingforcesfamilies.