Hightown Barracks Turf Cutting

Cynhaliwyd seremoni torri glaswellt i nodi dechrau datblygiad ar gyfer safle cofio newydd, a fydd wedi’i leoli tu allan i Farics Hightown.

Cysylltiad dros y blynyddoedd

Mae Wrecsam wedi cael cysylltiad balch gyda’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig dros y 350 mlynedd diwethaf, gyda Barics Hightown yn nodwedd hanfodol o’r dref a hanes milwrol. Roedd y Cynghorydd Graham Rogers o Ward Hermitage yn awyddus i nodi’r cysylltiad hwn gyda theyrnged addas.

Helpodd y Cynghorydd Rogers i ffurfio is-bwyllgor yn 2017 er mwyn dechrau hel pres i osod gardd gofio yn y man gwyrdd tu allan i gatiau’r barics. Cawsant wybod y byddai’r prosiect yn costio £95,000. Hyd yma, drwy wahanol ffyrdd o godi arian, casglodd y gymuned a’r is-bwyllgor swm anhygoel o £65,000.

Bydd y gofeb yn gweld cerflun efydd maint llawn o filwr y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, gyda’r afr Gatrodol eiconig wrth ei ochr. Bydd hwn yn cael ei amgylchynu gan ardd gofio, gydag un ar ddeg bwa, sy’n ymgorffori llechi i olygu catrodau a gwrthdaro yn y gorffennol. Bydd y gofeb yn cael ei goleuo bob nos unwaith mae’n cael ei gosod.

Troi’r freuddwyd yn realiti

Er mwyn cynnal y prosiect, gofynnwyd i westeion arbennig helpu i ddod â’r weledigaeth yn fyw. Ar y cyd gyda’r pensaer James Rowbottom, mae’r cerflunydd Nick Elphick wedi creu cerflun efydd a fydd yn ganolbwynt i’r ardd. Efallai bod Nick yn enw cyfarwydd i rai drwy ei waith ar y teledu, sy’n cynnwys “Salvage Hunters.”

Gan siarad am y prosiect hyd yma, dywedodd y Cyng Rogers: “Rwy’n falch iawn o fod yn gysylltiedig â’r prosiect hwn, ac mae’n rhaid i mi ddweud bod Cyngor Cymuned Offa wedi bod yn gefnogol iawn drwy gydol y gwaith. Hoffwn ddiolch i bawb am eu gwaith caled a’u cyfraniadau hyd yma, a hir oes i’n llwyddiant”.

Y toriad cyntaf

Ymysg y bobl oedd wedi ymgasglu i weld y rhan gyntaf o dir yn cael ei thorri oedd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Ronnie Prince, a’r Lefftenant-Cyrnol (wedi ymddeol), Nick Lock, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Daethant â’u rhawiau’n barod i gael yr anrhydedd o dorri’r dywarchen.

Ar ôl nodi’r digwyddiad, dywedodd y Maer: “Anrhydedd o’r mwyaf yw cael bod yma heddiw yn y seremoni i dorri’r gwair i nodi dechrau’r datblygiad, a fydd bendant yn deyrnged emosiynol ac addas.

“Rydw i’n falch o fod yma i gael dechrau ar waith y prosiect, ac rydw i’n edrych ymlaen at weld y prosiect wedi’i gwblhau, gan ei fod yn arbennig cael y cerflun yma i gynrychioli’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig”.

Roedd y Lefftenant-Cyrnol (wedi ymddeol), Lock, yn falch iawn o gael ymuno â’r digwyddiad y diwrnod hwnnw hefyd. Dywedodd:  “Rydw i’n hynod o falch, fel cyn-filwr y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, o fod yn rhan o’r prosiect hwn. Rydw i’n meddwl ei fod yn deyrnged addas i’r holl rai a frwydrodd ac a wasanaethodd mewn gwrthdaro.

“Mae’r gofeb yn gwella’r amgylchedd ar gyfer y barics, ac yn nodi dechrau cyfnod newydd, gan fod gennym Gwmni drwy’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a fydd yn cael ei sefydlu cyn bo hir, yma yn Wrecsam”.

Dywedodd Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Wrecsam, y Cynghorydd David Griffiths: Fel Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, hoffwn ddiolch i’r gymuned am gymryd rhan ac rydw i’n croesawu eu cyfranogiad wrth gofio am, a pharchu hanes y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Wrecsam”.

Nawr, mae’r gwaith o gasglu pres a chychwyn ar y prosiect yn dechrau o ddifrif, a fydd yn sicr o fod yn un o nodweddion eiconig Wrecsam.