Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi erlyn 2 unigolyn mewn 2 achos Gorfodi Cynllunio ar wahân:
- Cyflwynwyd Hysbysiad Tramgwydd Cynllunio i berchennog eiddo yn Llai. Roedd yr Hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ymateb gyda gwybodaeth i gynorthwyo ymchwiliadau’r Cyngor i honiadau o dorri rheolau rheoli cynllunio ar y safle. Methodd perchennog y tir ag ymateb i’r Hysbysiad. Cafodd orchymyn i dalu dirwy o £40, £280 mewn costau a thâl dioddefwr o £16.
- Cafodd perchennog eiddo yng Ngresffordd ei erlyn am fethu â chydymffurfio â gofynion Hysbysiad Gorfodi i dynnu estyniad o’i ardd ddomestig i lawr, a oedd yn ymestyn allan y tu hwnt i ffin yr eiddo ac i gefn gwlad agored, ynghyd â thynnu ffens derfyn i lawr, a godwyd o amgylch ardal yr ardd anghyfreithlon. Cafodd orchymyn i dalu dirwy o £400, £280 mewn costau a thâl dioddefwr o £160.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd: “Mae canlyniad yr achosion hyn eto yn dangos y byddwn yn ymateb yn gadarn os yw rheoliadau cynllunio yn cael eu torri. Byddwn hefyd yn ymateb yn gadarn lle mae unigolion yn ceisio rhwystro ymchwiliadau i achosion o dorri rheoliadau cynllunio.”
Dywedodd David Fitzsimon, Prif Swyddog yr Economi a Chynllunio yng Nghyngor Wrecsam: “Mae’r achosion hyn yn dangos bod ein Swyddogion yn ymateb yn gadarn i achosion o dorri rheolau cynllunio drwy gymryd camau gorfodi, gan gynnwys erlyn lle mae hynny’n fuddiol.” Bydd swyddogion hefyd yn troi at erlyn os nad yw unigolion yn cydymffurfio â gofynion statudol i ddarparu gwybodaeth i gynorthwyo Swyddogion i ymchwilio i achosion o dorri rheolau cynllunio.”