“Ar hyn o bryd, rydym yn ymchwilio i siafft wedi cwympo ym Mharc Solvay Banks, parc cyhoeddus a man chwarae yn Southsea, Wrecsam.
“Digwyddodd y cwymp ym mis Ebrill a rhoddodd yr Awdurdod Lleol wybod i ni am y mater. Ers hynny, rydym wedi gwneud gwaith brys i sefydlogi’r ardal hyd nes y cynhelir ymchwiliadau pellach.
“Mae ein hymchwiliadau wedi dangos bod y siafft dan sylw yn debygol o fod tua 110m o ddyfnder gyda dwy siafft arall sy’n debyg o ran dyfnder ger y lleoliad.
“Mae gwaith arolygu ac ymchwiliad tir bellach yn yr arfaeth, ac oherwydd lleoliad y digwyddiad, rydyn ni’n gwneud y gwaith hwn fel blaenoriaeth.
“Ar ôl yr ymchwiliad tir, byddwn yn gallu cynllunio ffordd briodol o drin y siafft ac ystyried a oes angen gwneud unrhyw waith rhagweithiol i’r siafftiau eraill.
“Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cyhoedd am y cynnydd a wnawn. Yn y cyfamser, cadwch draw o’r ardal a dilynwch yr arwyddion diogelwch.”