Hoffech chi fod yn fasnachwr ym Marchnad Dydd Llun awyr agored wythnosol Wrecsam?
Ydych chi’n fusnes newydd sy’n chwilio am rywle i brofi’r farchnad? Neu efallai eich bod wedi bod yn gwerthu ar-lein ac yn chwilio am bresenoldeb mewn lleoliad prysur yng nghanol y dref?
Mae Marchnad Dydd Llun Wrecsam yn digwydd bob wythnos trwy gydol y flwyddyn ar Sgwâr y Frenhines yng nghanol canol tref Wrecsam.
Mae’n gyfle delfrydol i’ch busnes gyrraedd cynulleidfa fawr newydd o siopwyr am gost fforddiadwy, risg isel.
Byddwch yn ymuno â theulu o fasnachwyr lleol sy’n gwerthu amrywiaeth enfawr o gynhyrchion gan gynnwys bwyd ffres, ffrwythau a llysiau, cigyddion, bara, cacennau, ffabrigau, planhigion, carpedi, anweddau a mwy.
Ac mae mwy o fuddion hefyd:
- Mae’r prisiau’n cychwyn o £16 yr wythnos
- Mae masnachwyr newydd yn cael eu rhent 4 wythnos gyntaf am hanner pris
- Dim contract
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Cysylltwch
Diddordeb? Rydym yn croesawu ymholiadau gan bob math o fusnesau. Os hoffech wybod mwy, anfonwch e-bost at wrexhammarkets@wrexham.gov.uk gyda rhywfaint o wybodaeth am eich busnes.
Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros yr Economi, y Cynghorydd Terry Evans: “Wrth i siopwyr ddechrau dychwelyd i’n strydoedd mawr, mae hwn yn amser delfrydol i fusnesau bach newydd ymuno â’r gymuned wych o fasnachwyr sy’n helpu i lenwi Sgwâr y Frenhines â lliw, golygfeydd a synau gwych bob dydd Llun.
“Rydym yn awyddus i ychwanegu mwy fyth o amrywiaeth i’r farchnad ac i ddenu mwy o siopwyr i’r digwyddiad wythnosol poblogaidd hwn. Byddwn yn annog pob math o fasnachwyr newydd i gysylltu. Mae hwn yn lle delfrydol i fynd â’ch busnes i farchnata mewn prysur lleoliad canol tref ”
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF