Ddydd Iau 5 Mai, bydd preswylwyr yn Wrecsam yn bwrw pleidlais i ddweud eu dweud ar bwy fydd yn eu cynrychioli yn Neuadd y Dref.
Er mwyn pleidleisio yn yr etholiadau lleol pwysig hyn, rhaid i breswylwyr fod ar y gofrestr etholwyr, ac rydym yn annog preswylwyr nad ydynt wedi cofrestru yn eu cyfeiriad presennol i sicrhau eu bod yn gwneud hynny ar amser.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Mae gennych hyd at 14 Ebrill i gofrestru ac mae’n hawdd iawn.
Mae’n cymryd pum munud i wneud cais ar-lein ar gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.
Meddai Ian Bancroft, Swyddog Canlyniadau Wrecsam: “Nid oes llawer o amser ar ôl i chi sicrhau eich bod yn gallu cymryd rhan yn yr etholiadau.
“Mae etholiadau lleol yn gyfle i leisio eich barn a phenderfynu pwy a fydd yn eich cynrychioli ar faterion sy’n effeithio’n uniongyrchol ar fywyd bob dydd yma yn Wrecsam. Os na fyddwch wedi cofrestru erbyn 14 Ebrill, ni fyddwch yn gallu pleidleisio.”
Eleni, gofynnir i breswylwyr ethol 56 cynghorydd i 49 ward. Mae hyn yn wahanol i’r etholiadau lleol diwethaf yn dilyn newidiadau gan Lywodraeth Cymru ar ôl Adolygiad y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol.
Gallwch weld os ydych yn un o’r wardiau sydd wedi newid yma.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH