Gofynnwyd i bobl ifanc sy’n defnyddio Darpariaeth Ieuenctid Y Mwynglawdd “pe byddai yna arian i helpu i wella’r ddarpariaeth ieuenctid beth hoffech chi i ni ei wneud?’
Dyma eu hawgrymiadau: gemau i chwarae y tu mewn a’r tu allan, hefyd awgrymwyd y byddai gwres yn y cynhwysydd yn helpu yn ystod y misoedd oerach ac y byddai lloches a goleuadau y tu allan yn rhoi mwy o le iddynt i chwarae gemau neu i dreulio amser gyda ffrindiau.
Cefnogodd y bobl ifanc y cais am grant gan Gynllun Grant Bach Grant Refeniw y Gwasanaeth Ieuenctid a chawsant arian i ddarparu adnoddau newydd, gan gynnwys offer chwaraeon, gemau y tu allan a gemau bwrdd newydd. Darparodd Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam wresogyddion ar gyfer y tu mewn i’r cynwysyddion a goleuadau y gellir eu hailwefru i’w defnyddio y tu allan a hefyd sicrhawyd £1500 ar gyfer deunyddiau i adeiladu lloches i ymestyn y gofod y tu allan.
Cysylltwyd â Choleg Cambria a gofynnwyd iddynt a hoffent gefnogi’r gwaith o adeiladu’r lloches, a chytunodd y coleg i hynny. Roedd y £1500 yn llwyddo i dalu am y deunyddiau oedd eu hangen a chynigodd Coleg Cambria eu gwasanaethau’n rhad ac am ddim.
Gweithiodd y staff a’r myfyrwyr yn galed gan dreulio sawl awr yn mesur, cynllunio ac yn dylunio’r lloches i weddu i anghenion y ddarpariaeth ieuenctid. Yna yn ystod gwersi yng Ngholeg Cambria fe ddefnyddiodd y myfyrwyr, wedi eu cefnogi gan staff, eu sgiliau i adeiladu’r fframiau. Yn olaf fe ddaethant yn ôl i’r ddarpariaeth ieuenctid a gosod y ffrâm i’r llawr a’r cynhwysydd, ychwanegu’r to a gorffen y cyfan drwy staenio’r pren. Ac mae’n edrych yn wych!
Lle estynedig gwych i bobl ifanc Y Mwynglawdd ac ardaloedd eraill
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg, “Roedd hwn yn brosiect ar y cyd lle gofynnodd pobl ifanc am newid ac yna fe gefnogodd pobl ifanc y newidiadau hynny. Dyma enghraifft berffaith o bobl ifanc yn lleisio eu barn ac yn gwella eu cymunedau. Nawr mae yma le estynedig gwych i’r bobl ifanc o’r ddarpariaeth ieuenctid ei ddefnyddio a hefyd bydd Timau Pêl-droed Coedpoeth a’u teuluoedd yn elwa ac rydym yn sicr y byddant yn gwerthfawrogi lle sych i aros yn ystod y sesiynau hyfforddi neu wrth wylio’r gemau.
“Diolch i bawb fu’n rhan o hyn.”
Mae Darpariaeth Ieuenctid Y Mwynglawdd ar gyfer pobl ifanc 10 – 15 oed, mae’n lle diogel i’r bobl ifanc chwarae a gwneud ffrindiau. Rydym yn darparu llawer o wahanol weithgareddau, sesiynau addysgiadol, chwaraeon a theithiau. Rydym yn cyfarfod bob dydd Mawrth yn ystod y tymor o 6pm tan 8pm.
Os hoffai unrhyw un ragor o wybodaeth ar Ddarpariaeth Ieuenctid Y Mwynglawdd yna cysylltwch â Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam: youthservice@wrexham.gov.uk
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Grymuso Cynaliadwyedd: Siwrnai Lleihau Carbon Ysgol Gynradd Yr Holl Saint
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch