Mae Cyngor Wrecsam a thrigolion lleol yn mynegi pryder mawr yn dilyn achos gofidus o fandaliaeth ym Mhlas Madog ar 14 Ebrill 2025, lle cafodd sawl coeden eu difrodi’n fwriadol – rhai wedi’u cymynu’n llwyr, eraill wedi’u gadael gyda niwed nad oes modd ei wrthdroi.
Darganfuwyd y dinistr disynnwyr dros y penwythnos mewn man gwyrdd poblogaidd yn y gymuned. Mae asesiadau cychwynnol wedi cadarnhau bod nifer o goed aeddfed wedi’u torri i lawr, tra bod eraill wedi dioddef difrod mor ddifrifol nad ydynt yn debygol o wella.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, yr aelod arweiniol dros wasanaethau amgylcheddol: “Nid colli coed yn unig yw hyn, mae’n golled i’r amgylchedd, i fywyd gwyllt lleol, ac i lesiant y gymuned sy’n trysori ac yn defnyddio’r mannau gwyrdd hyn.”
Mae coed yn darparu manteision hanfodol – gan wella ansawdd aer, cynnig cysgod a lloches, cefnogi bioamrywiaeth, a chyfrannu at harddwch a chymeriad yr ardal. Bydd eu colled yn cael ei deimlo gan bawb sy’n byw ym Mhlas Madog ac sy’n ymweld â Phlas Madog.
Ychwanegodd y Cynghorydd Paul Blackwell, aelod lleol dros Ogledd Acre-fair: “Mae fandaliaeth y coed hyn sy’n darparu ocsigen ac sy’n gwella ein hamgylchedd gweledol yn gywilyddus. Mae’n ddigon anodd ceisio cael cyllid i wella ein hamgylchedd heb i hyn ddigwydd ac rwy’n gobeithio bod y troseddwyr yn cael eu dal.”
Mae’r digwyddiad wedi cael ei adrodd i Heddlu Gogledd Cymru, ac mae ymchwiliad bellach yn mynd yn ei flaen. Mae’r cyngor yn apelio ar unrhyw un a welodd neu a glywodd unrhyw beth amheus yn yr ardal i ddod ymlaen gyda gwybodaeth.
“Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ein hamgylchedd lleol,” ychwanegodd y llefarydd. “Byddwn yn archwilio pob opsiwn ar gyfer ailblannu ac adfer, ond bydd y difrod hwn yn cymryd blynyddoedd – os nad degawdau – i’w ddadwneud.”
Anogir aelodau’r gymuned i aros yn wyliadwrus ac i roi gwybod i’r awdurdodau am unrhyw weithgarwch amheus pellach. Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu’n ddienw drwy Crimestoppers.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.