Eisiau helpu i lywio Wrecsam? Fe allai’r swyddi Cynllunio yma fod yn berffaith i chi…

Ydych chi’n weithiwr Cynllunio proffesiynol sydd yn chwilio am gyfle newydd, cyffrous? Ydych chi eisiau cyfrannu at lywio dinas fwyaf newydd Cymru a’i helpu i gyflawni ei photensial diamheuol.

Os felly, fe fyddwch chi eisiau taro golwg ar y swyddi gwag yma sydd yn barod ar gyfer yr unigolion brwdfrydig a thalentog cywir i ffynnu. Mae yna lawer yn digwydd yn Wrecsam, ac mae hi’n amser gwych i weithio i ni…

Yr amser perffaith

Gyda Strategaeth Siapio Lle newydd yn cael ei datblygu, David Fitzsimon, Prif Swyddog newydd yn cael ei benodi yn 2022 a llawer o brosiectau adfywio diddorol ar y gweill, mae cyfnod prysur a chyffrous o’n blaenau.

Rydym newydd symud i’n Swyddfa newydd ei hadnewyddu yng nghanol Wrecsam ac rydym yn gweithio mewn ffordd fodern, hyblyg a chreadigol. Fe allech chi ddweud ei bod hi’n amser perffaith i ymuno.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Y swyddi

Mae gennym ni bedair swydd gyffrous – mae dwy ohonynt yn swyddi Pennaeth Gwasanaeth. Ai un o’r swyddi yma yw’r swydd iawn i chi?

Pennaeth Gwasanaeth, Rheoli Datblygu

G15 – £58,082 – £61,753
Mae hon yn rôl allweddol i ddarparu gwelliannau gwasanaeth; gan arwain ar bob agwedd o swyddogaethau Rheoli Datblygu a Gorfodaeth y Cyngor, gan reoli tîm o Swyddogion proffesiynol a chyswllt gydag Aelodau Etholedig.

Pennaeth y Gwasanaeth – Polisi Cynllunio

G14 – £53,988 – £56,860
Mae hon yn rôl allweddol i ddarparu gwelliannau gwasanaeth; gan arwain ar holl agweddau darparu fersiwn derfynol ein Cynllun Datblygu Lleol a chynhyrchu Canllaw Cynllunio Atodol, rheoli’r Tîm Polisi ac Arbenigwyr Amgylcheddol a chysylltu gydag Aelodau Etholedig.

Uwch Swyddog Cynllunio – Rheoli Datblygu

G10 – £36,298 – £39,493 y flwyddyn
Ymdrin ag ystod lawn o ymholiadau cynllunio, ceisiadau cynllunio mwy cymhleth ac apeliadau perthnasol tra’n cefnogi a mentora aelodau iau’r Tîm.

Swyddog Cynllunio – Polisi Cynllunio

G09 – £32,909 – £35,411 y flwyddyn
Darparu cefnogaeth broffesiynol i’r Pennaeth Polisi Cynllunio, Arweinydd Polisi ac Uwch Swyddog Cynllunio i ddarparu ac yna adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol a Chanllaw Cynllunio Atodol cysylltiol a darparu cyngor ynglŷn â pholisi i’r Tîm Rheoli Datblygu.

Byw yn Wrecsam

I rai, bydd gyrfa gyda ni yn golygu symud o’ch tref / dinas bresennol, ond peidiwch â phoeni – mae gan Wrecsam lawer yn mynd amdani!

Mae gennym barciau gwledig anhygoel (mae un parc yn cynnwys Safle Treftadaeth y Byd – Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte), hanes cyfoethog a balch, a rhai o’r bobl fwyaf gonest a gweithgar y gallech eu cyfarfod yn unman.

Yma mae Tŷ Pawb; adnodd cymunedol diwydiannol, sy’n dod â’r celfyddydau a marchnadoedd ynghyd yn yr un lleoliad. Ni hefyd yw cartref rhai o fusnesau mwyaf llwyddiannus Prydain.

Yn ogystal, nid yn unig yr ydym wedi ein lleoli yn agos at ddinasoedd fel Caer, Lerpwl a Manceinion, rydym hefyd dafliad carreg i ffwrdd o rai o draethau hyfrytaf y DU.

I gael rhagor o wybodaeth ac i ymgeisio

I drefnu trafodaeth anffurfiol am unrhyw un o’r swyddi hyn, gallwch anfon e-bost at David Fitzsimon, Prif Swyddog Economi a Chynllunio: david.fitzsimon@wrexham.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth ac i ymgeisio: https://www.wrecsam.gov.uk/swyddi

Dyddiad Cau: 19/02/2023

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Report_a_missed_waste_collection”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]