Person ifanc rhwng 16 a 25 oed yw rhywun sydd yn gadael gofal, sydd wedi derbyn gofal y tu allan i’w teulu ar ryw adeg.
Gall y cyfnod rhwng bod mewn gofal ac yna gadael gofal fod yn brofiad anodd iawn, yn enwedig pan fydd rhywun mor ifanc.
Yn rhan o wythnos Pobl sy’n Gadael Gofal rydym wedi gwahodd rhai o’n pobl ifanc sydd wedi gadael gofal i rannu eu profiadau, cyngor, eu straeon, eu cynlluniau a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Mae straeon rhai o’r bobl ifanc wedi bod yn emosiynol iawn a heblaw am newidiadau bach mewn rhai achosion i helpu i’w cadw’n ddienw, mae’r geiriau ysbrydoledig yn cael eu siarad gan y bobl ifanc eu hunain.
Gofynnwyd yr un cwestiwn i’r bobl ifanc sydd wedi gadael gofal, ac mae’r atebion yn dangos bod eu hamgylchiadau personol a’u personoliaethau wedi golygu profiadau gwahanol iawn.
Rydym ni’n gobeithio y bydd eu geiriau cynnig cysur, cyngor ac ysbrydoliaeth i oedolion ifanc eraill mewn sefyllfaoedd tebyg….
Rydw i’n fam 20 oed a oedd yn blentyn a oedd yn derbyn gofal, ac rŵan rydw i o dan ofal y tîm gadael gofal. Mae fy niddordebau’n cynnwys coginio, pobi, tynnu lluniau, a choginio – er mor drist y mae hynny’n swnio! Mae gen i ddiddordeb mawr mewn hanes hefyd. Dyna oedd fy hoff bwnc yn yr ysgol, a dw i’n dal i edrych ar feysydd hanes newydd rŵan!
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Pan ddes i at y tîm gofal gyntaf, roeddwn i’n 16 oed, wedi colli fy swydd a ’nghartref. Doeddwn i ddim yn ymdopi’n feddyliol, ac fe gefais fy symud i hostel â chymorth er mwyn imi gael trefn ar bethau. Allwch chi fyth wrando ar brofiad rhywun arall oherwydd mae’n wahanol i bawb. Fe gefais i gyfnodau da a chyfnodau gwael, fel pawb arall, ond roedd yn brofiad dymunol 9/10 o weithiau!
Roedd mynd o fod mewn gofal i sefyll ar fy nhraed fy hun yn anodd, ond fe gefais i lawer o gefnogaeth ac fe gefais i gymorth i symud i lety â chymorth lle roedd gen i fy fflat fy hun. Roedd yn brofiad ofnadwy ar y dechrau ond roedd pawb yn fy sicrhau’n gyson fy mod i’n gwneud yn dda, ac roeddwn wrth fy modd yn y diwedd! Roedd yn braf iawn gallu ymlacio ar fy mhen fy hun! Cefais gymaint o help wrth adael gofal. Derbyniais gymaint o gefnogaeth, a fyddwn i ddim yn lle rydw i heddiw heblaw am y tîm anhygoel. Mi hoffwn i ddweud fy mod i’n gor-ddweud, ond dydw i ddim pan dw i’n dweud bod y tîm wedi achub fy mywyd – yn llythrennol.
Rydw i wedi dysgu nad ydw i ar fy mhen fy hun, ac mai’r cwbl sydd raid imi’i wneud ydi codi’r ffôn. Rydw i wedi cael hwb i’r cyfeiriad cywir ac rydw i, o’r diwedd, yn cael y cymorth estynedig sydd ei angen arnaf. Fyddwn i ddim wedi cael hwnnw ar fy mhen fy hun yn y gorffennol, ond mae fy ngweithwyr wedi bod yn anhygoel yn y maes hwnnw. Maen nhw wedi bod yn anhygoel yn gyffredinol, a dweud y gwir!
Fel y dywedais ar y dechrau, rydw i’n fam rŵan. Fe ddes i â hogan fach i’r byd gyda fy mhartner. Fe gefais gic allan o un teulu, ond rŵan wedi creu fy nheulu fy hun, ac mae hynny’n gymaint o fendith. Rydw i hefyd yn gwirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Geni Plant, sy’n cefnogi teuluoedd yn y 1,000 diwrnod cyntaf, ac mae hynny’n wych! Yn y dyfodol, hoffwn naill ai fynd yn ôl i’r coleg i astudio hanes, neu arlwyo, o bosibl, a dechrau fy musnes pobi fy hun.
……………………………………………………………………………………………………………….
Helo Rydw i’n 19 oed, rydw i wedi bod mewn gofal ers pan oeddwn i’n 5 oed ac wedi byw mewn 3 cartref maeth ond y pedwerydd oedd * a* ac mi wnes i fwynhau byw gyda nhw oherwydd eu bod yn cymryd gofal da ohonof i ac mi wnes i aros gyda nhw nes oeddwn i’n 18 oed yna symudais at * ond doedden ni ddim yn dod ymlaen yn dda iawn a doedd o ddim yn brofiad da i mi – doedden ni ddim yn dod ymlaen cystal ag yr oeddwn i gyda *.
Fy niddordebau ydy treulio amser gyda ** sef fy ngofalwr newydd. Rydw i bob amser yn gwrando ar fy hoff gerddoriaeth ar fy Alexa a mynd i aros gyda mam ond dydy hynny ddim yn digwydd yn aml gan ei bod yn byw mor bell i ffwrdd. Rydw i bob amser yn edrych ar Tiktok ar fy ffôn a gwneud rhai o’r symudiadau dawnsio.
Roeddwn i’n 5 oed pan es i i ofal maeth a cefais fy nhynnu oddi wrth fy mam pan oeddwn i’n 5 oed. Roedd hynny’n anodd iawn i mi achos mam oedd yn gwneud popeth i mi a rŵan rydw i’n gwneud popeth i mi fy hun ac rydw i’n ymdopi ond mae ‘na rai pethau yr ydw i’n dal i fethu â’u gwneud ond rydym ni’n gweithio ar hynny. Pan oedd raid i mi adael * roedd o mor anodd oherwydd roeddwn i wrth fy modd yno ac roedd hi’n gwneud y rhan fwyaf o’r pethau yr ydw i’n gwneud drostof fi fy hun rŵan ond rydw i’n oedolyn rŵan ac rydw i’n gwneud mwy o bethau drostof fi fy hun.
Rydw i’n yn y coleg yn Wrecsam ar hyn o bryd yn gwneud ychydig bach o bopeth ond yn y dyfodol rydw i eisiau gweithio gyda phobl fyddar achos rydw i’n hoffi ymarfer a dysgu a helpu pobl i ddysgu iaith arwyddion ac mae pobl yn meddwl fy mod i’n anhygoel yn gallu gwneud iaith arwyddion felly mi fyddwn i’n hoffi gwneud rhywbeth efo’r sgil yna oherwydd does dim llawer o bobl yn gallu arwyddo yn iawn ac mi fyddwn i’n hoffi helpu pobl i ddysgu mwy.
Rydw i’n meddwl hefyd dylai bod mwy o adnoddau ar gael i blant ac oedolion byddar neu unrhyw unigolion byddar. Dylai fod mwy o bethau i blant chwarae efo nhw i ddysgu’r wyddor yn well neu ysgrifennu neu hyd yn oed arwyddo wrth ddarllen llyfr.
Ar hyn o bryd rydw i’n byw gyda rhywun o’r enw ** ac mae hi’n berson hyfryd ac annwyl mae’n gwneud i mi chwerthin ac rydym ni’n cael llawer o hwyl gyda’n gilydd ac yn mynd ar wyliau gyda’n gilydd ac yn chwarae gemau ac mae hi’n fy helpu i gyda’r pethau sy’n anodd i mi ac yn ceisio fy helpu i wella’r sgiliau hynny. Mae fy Nanna yn help mawr hefyd mae hi yn ceisio fy helpu gyda pethau hefyd fel coginio swper a gwneud yn siŵr fy mod yn glanhau i fyny ar ôl fy hyn ac yn golli llestri ar ôl eu defnyddio.
Os ydych chi’n rhywun sy’n gadael gofal ac eisiau cyngor, cysylltwch â’r tim gadael gofal :01978295610
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am ddod yn ofalwr maeth cysylltwch â:Taylor Downes , 01978295316 , Taylor.Downes@wrexham.gov.uk
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am gynnig llety â chefnogaeth, cysylltwch â:Sara Jones – sara.jones@wrexham.gov.uk, 01978295320
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL