Mae ffilm i ddangos a dathlu amrywiaeth cymunedau yn Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn cael ei chynhyrchu ac fe’ch gwahoddir i serennu!
Bydd y ffilm “Gwahanol gyda’n Gilydd” yn dangos y croeso sydd yma yng Ngogledd Ddwyrain Cymru i bobl o bob diwylliant, ethnigrwydd, hunaniaeth a chred.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Bydd hefyd yn adlewyrchu ar beth mae “amrywiaeth” yn ei olygu i bob un ohonom ac i gydnabod fod profiadau bywyd sy’n gwneud bob un ohonom yn wahanol yn seiliedig ar obeithion, anghenion a gwerthoedd a rennir sy’n ein gwneud ni i gyd yr un fath.
Sut allaf gymryd rhan?
Bydd trefnwyr yn derbyn cyflwyniadau a recordiwyd hyd at 31 Mawrth – a gallwch ddarganfod sut i gymryd rhan trwy e-bostio gareth.hall@wrexham.gov.uk i gael mwy o wybodaeth.
Bydd gan bawb sy’n cymryd rhan y cyfle i gysylltu â’i gilydd ar ôl cyhoeddi’r ffilm i drafod syniadau ar gyfer prosiectau cynhwysol amrywiaeth newydd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
CANFOD Y FFEITHIAU