Dyfarnwyd gwobr Cymdeithas Ddinesig Ardal Wrecsam i ysgol Hafod y Wern am yr adeilad newydd gorau mewn seremoni’r wythnos ddiwethaf.
Roedd yn costio £5.3 miliwn trwy Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru a Chyngor Wrecsam.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Dyna newyddion gwych a hoffwn longyfarch yr ysgol a’r tîm dylunio sydd wedi dod ag adeilad sy’n addas ar gyfer y 21 Ganrif a hefyd yn hyrwyddo safonau cynllunio a phensaernïaeth uchel!
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Cwblhaodd yr adeiladwyr R L Davies and Sons y gwaith o fewn y gyllideb ac ar amser ac agorwyd yr ysgol ddwy lawr yn swyddogol ym mis Mehefin gan Ysgrifennydd Addysg y Cabinet, Kirsty Williams AC.
Edrychwch beth oedd yr ysgol newydd yn ei olygu i’r gymuned pan agorodd ym mis Mehefin: