Diogelwch. Seiberddiogelwch. Twyll. Cyllid. Adnoddau. A chant a mil o bethau eraill.
Fel unrhyw sefydliad mawr, mae Cyngor Wrecsam yn wynebu llwyth o bwysau o risgiau – ac mae gofyn i ni eu rheoli’n ofalus.
Oherwydd os aiff rhywbeth o chwith, gall gael effaith drom ar ein gwasanaethau … ac ar y bobl sy’n eu defnyddio.
Mae’n rhaid i ni sicrhau felly ein bod yn gwybod beth yw’r prif bwysau a’r risgiau, a’n bod yn gwneud digon i rwystro neu leihau eu heffaith.
Efallai mai dyma lle gallech chi helpu.
Meddwl diduedd
Rydym ni’n chwilio am dri annibynnol o’r cyhoedd i fod yn rhan o’n Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
Mae’n cyfarfod sawl gwaith y flwyddyn, ac mae’n helpu i sicrhau bod gan y Cyngor brosesau cadarn i reoli risg, adrodd ac archwilio a llywodraethu.
Mae’n rhaid i aelodau o’r cyhoedd sydd ar y pwyllgor (sy’n cael eu galw’n ‘aelodau lleyg’) fod yn anwleidyddol, ac maent yn cael eu talu am roi eu hamser.
Efallai nad yw’n swnio’n gyffrous iawn ar yr olwg gyntaf, ond mae’n waith difyr ac yn rhoi llawer o foddhad.
Mae’r pwyllgor yn helpu i sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu’n gall ac yn gwneud pethau’n iawn – sy’n bwysig iawn i bobl leol sy’n dibynnu ar ei wasanaethau.
Y peth pwysicaf yw bod gennych chi feddwl diduedd ac agwedd annibynnol. Mae’n rhaid i chi fod yn gallu pwyso a mesur ffeithiau a thystiolaeth yn ymarferol, a bod yn dda am wneud pethau heriol.
Os ydych chi’n meddwl y byddech chi’n addas, cysylltwch â ni.