Mae dinasyddion Cymru ar flaen y gad o ran ailgylchu. A dweud y gwir, ni yw’r drydedd genedl orau yn y byd am ailgylchu. Ond mae angen eich help chi arnom i fod yr orau un.
Mae mwy na 90% ohonon ni’n ailgylchu’n rheolaidd, ond gyda’n hanner ni yn dal i beidio ailgylchu popeth posibl, mae mwy y gallwn ni ei wneud.
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydyn ni’n creu mwy o wastraff nag ar unrhyw adeg arall o’r flwyddyn dros yr Ŵyl. Gyda’r holl fwyd ychwanegol rydyn ni’n ei fwyta, a’r mynyddoedd o ddeunydd pacio o’r anrhegion Nadolig, dyma gyfle delfrydol i wneud yn siŵr ein bod yn ailgylchu cymaint ag y gallwn gartref.”
Felly, dewch inni fynd amdani gyda’r ymdrechion ailgylchu dros y Nadolig eleni, gwarchod y blaned a helpu Cymru i fod y genedl ailgylchu orau yn y byd, gyda chymorth syniadau a ffeithiau ailgylchu ’12 dydd Nadolig’ gan Cymru yn Ailgylchu:
1. Trawsnewid te i wneud trydan
Does dim byd mor gysurus â disgled o de ar ddiwrnod oer o’r gaeaf. Bydd lawen, bydd wych a thro dy ddisgled yn drydan y Nadolig hwn! Gall ailgylchu dim ond dau fag te greu digon o drydan i wefru ffôn clyfar yn llawn.
2. Dangos i boteli plastig pwy ‘di’r bos
O boteli nwyddau ymolchi i boteli diodydd, rho’r plastig yn ei le dros y Nadolig! Mae mwy nag 85% ohonon ni’n ailgylchu ein poteli plastig, fel poteli diodydd, poteli nwyddau glanhau a nwyddau ymolchi. Cofia wagio, gwasgu a rhoi’r caead yn ôl arnyn nhw cyn eu hailgylchu. Tynna unrhyw bwmp a chwistrelli yn gyntaf, gan na ellir ailgylchu’r rhain. Mae ailgylchu cyn lleied ag un botel siampŵ yn arbed digon o ynni i bweru stereo cartref am 5 awr.
Mae 85% o bobl Cymru yn golchi, rinsio ac ailgylchu. https://t.co/Hn2Mhr9Fa2 #ByddWychAilgylcha pic.twitter.com/xbwzsjxTi6
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) December 15, 2020
3. Concro’r pecynnau cardbord
Rydyn ni’n defnyddio mwy o gardbord dros yr Ŵyl nag ar unrhyw adeg arall o’r flwyddyn. Mae 86% o bobl Cymru’n ailgylchu eu cardbord. Cofia dynnu unrhyw dâp oddi ar y cardbord a fflatio bocsys i arbed lle yn y cynhwysydd ailgylchu. Hefyd, fe wnawn ni gasglu cardfwrdd glân wedi’i blygu’n fflat ac wedi’i adael wrth ymyl y cynhwysydd, cyn belled ag nad ydi o’n dalach na’n lletach na sach glas safonol.
4. Chwaneg o chwistrellu
Cofia ailgylchu caniau erosol gwag o’r ystafell wely a’r ystafell ymolchi – fel chwistrell gwallt, diaroglydd a gel eillio. Mae 73% ohonon ni’n ailgylchu erosolau. Gall ailgylchu dim ond un can erosol arbed digon o ynni i bweru stereo cartref am 32 awr! Dyna lond gwlad o ganeuon Nadoligaidd!
Mae 73% o bobl Cymru'n ailgylchu eu chwistrellwyr. https://t.co/PLHTxb7vQA #ByddWychAilgylcha pic.twitter.com/mJ20kOOx2U
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) December 18, 2020
5. Meistroli casys ffoil y Mins Peis
Gellir ailgylchu metel dro ar ôl tro heb i’w ansawdd ddirywio. Ac mae 70% ohonon ni yng Nghymru’n ailgylchu ein ffoil. Dalier ati gyda’r gwaith da trwy ailgylchu’r casys ffoil oddi ar y mins peis ac unrhyw ffoil a gaiff ei ddefnyddio wrth goginio dros yr Ŵyl (a bwrw ei fod yn lân). Hefyd, os gwnei di wasgu eitemau ffoil cyn eu hailgylchu, fe wnaiff eu helpu ar eu ffordd drwy’r broses sortio heb fynd ar goll.
6. Bwyta, ailgylcha, bydd lawen
Rydyn ni’n creu llawer mwy o wastraff bwyd dros y Nadolig, felly gwna’n siŵr o roi pob tamaid yn y cadi cegin. Galli ailgylchu esgyrn twrci, crafion llysiau ac unrhyw fwyd dros ben o’r cinio Nadolig (y pethau na ellir eu bwyta’n ddiogel yn nes ymlaen!), ynghyd â bagiau te a gwaddodion coffi, plisg wyau, crafion a chreiddiau ffrwythau, a hen fara. Mae 80% ohonon ni yng Nghymru yn ailgylchu ein gwastraff bwyd, a gall un llond cadi o wastraff bwyd gynhyrchu digon o ynni i bweru teledu am ddwy awr, digon hir i wylio Home Alone!
7. Gwasga dy ganiau diodydd gwag
P’un ai alcohol neu ddiod ysgafn y byddi di’n ei sipian dros yr Ŵyl, cofia ailgylchu’r caniau. Mae ailgylchu un can yn arbed digon o ynni i bweru sugnwr llwch am awr.
8. Gwydr
Wyddost ti fod gwneud eitemau gwydr o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu’n defnyddio tua 95% yn llai o ynni o’i gymharu â defnyddio deunyddiau ‘crai’? Galli ailgylchu pob math o eitemau gwydr, o ba bynnag faint neu siâp; poteli a jariau. Y cwbl y mae angen iti ei wneud yw eu rinsio’n gyflym a rhoi’r caead yn ôl ar yr eitemau cyn eu hailgylchu.
9. Rho anrheg i’r blaned – ailgylcha’r tybiau siocled plastig
Mae’r rhan fwyaf o bobl Cymru’n dweud eu bod yn ailgylchu i warchod yr amgylchedd. Ac mae’n cymryd 75% yn llai o ynni i wneud potel o blastig wedi’i ailgylchu yn hytrach na deunyddiau crai. Gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o blastigion, yn cynnwys y tybiau mawr o siocled a losin blasus sy’n ymddangos dros y Nadolig!
Rhannu neu sglaffio'r cyfan? Mae 86% o bobl Cymru'n ailgylchu eu tybiau plastig. https://t.co/UFsMpLtnGS #ByddWychAilgylcha pic.twitter.com/mxvvz3fFJR
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) December 17, 2020
10. Coed Nadolig
Mae coed Nadolig ‘go iawn’ yn 100% ailgylchadwy.Os ydych chi wedi tanysgrifio i’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd gallwch ailgylchu eich coeden Nadolig go iawn yn eich bin gwyrdd, cyn belled â’i bod yn ffitio. Os yw’n rhy fawr, gallwch fynd â hi i un o’n canolfannau ailgylchu.
11. Calendr Adfent
Os oeddet ti’n ddigon ffodus i gael calendr Adfent siocled eleni, cofia ailgylchu’r cardbord allanol. Ni ellir ailgylchu’r plastig y tu mewn; rho hwn yn y bin sbwriel cyffredinol ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.
12. Cardiau Nadolig
Wrth ailgylchu cardiau Nadolig, rhaid cofio tynnu unrhyw ddarnau gyda llwch llachar neu rubanau yn gyntaf, gan nad oes modd eu hailgylchu. A chofia ailgylchu’r amlenni i gyd hefyd.
Mwy o wybodaeth yma am Ymgyrch Gwych Cymru yn Ailgylchu i helpu Cymru i gyrraedd y brig: www.byddwychailgylcha.org.uk
CANFOD Y FFEITHIAU