Os nad oes gennych symptomau Covid ond eich bod angen gwirio os ydych yn asymptomatig yna gallwch gasglu dyfais prawf llif unffordd o’ch fferyllfa leol yn ogystal ag ar y ffôn neu ar-lein.
Mae’r rheiny sy’n defnyddio profion llif unffordd yn cynnwys:
- gwirfoddolwyr
- pobl nad ydynt yn gweithio o gartref
- gofalwyr di-dâl
- pobl sy’n ymweld â Chymru o rywle arall
- pobl sy’n teithio i rannau eraill o’r DU
- pobl sydd angen prawf cyn ymweliad ysbyty ar ôl cais gan eich bwrdd iechyd
- pobl sy’n defnyddio gwasanaethau mamolaeth ysbyty – mae hyn yn cynnwys eich partner
- rhiant, gofalwr neu warcheidwad plentyn sydd yn yr ysbyty
- pobl sy’n mynd i ddigwyddiad sy’n nodi fod prawf yn ofynnol
Os ydych yn cael eich profion drwy eich cyflogwr neu o leoliad addysg dylech barhau i wneud hynny.
Gallwch archebu pecynnau profi gartref llif unffordd ar GOV.UK. Gallwch archebu 1 pecyn profi cartref (7 prawf) ar y tro. Mae’n cymryd 1 i 2 diwrnod i’w danfon.
Gallwch hefyd gasglu’r pecynnau profion. Dod o hyd i’ch pwynt casglu agosaf ac amserau agor (ar nhs.uk).
Gallwch gasglu profion COVID-19 cyflym o’r rhan fwyaf o fferyllfeydd. Darganfyddwch a yw fferyllfa yn eich ardal chi yn cynnig y gwasanaeth hwn.
Dim ond pobl nad oes ganddynt symptomau Covid ddylai ddefnyddio profion llif unffordd Dylai unrhyw un sydd â symptomau gymryd prawf PCR a gallwch archebu hwn drwy ddefnyddio’r ddolen hon. (Saesneg yn unig)
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN