LLIF UNFFORDD

Os nad oes gennych symptomau Covid ond eich bod angen gwirio os ydych yn asymptomatig yna gallwch gasglu dyfais prawf llif unffordd o’ch fferyllfa leol yn ogystal ag ar y ffôn neu ar-lein.

Mae’r rheiny sy’n defnyddio profion llif unffordd yn cynnwys:

  • gwirfoddolwyr
  • pobl nad ydynt yn gweithio o gartref
  • gofalwyr di-dâl
  • pobl sy’n ymweld â Chymru o rywle arall
  • pobl sy’n teithio i rannau eraill o’r DU
  • pobl sydd angen prawf cyn ymweliad ysbyty ar ôl cais gan eich bwrdd iechyd
  • pobl sy’n defnyddio gwasanaethau mamolaeth ysbyty – mae hyn yn cynnwys eich partner
  • rhiant, gofalwr neu warcheidwad plentyn sydd yn yr ysbyty
  • pobl sy’n mynd i ddigwyddiad sy’n nodi fod prawf yn ofynnol

Os ydych yn cael eich profion drwy eich cyflogwr neu o leoliad addysg dylech barhau i wneud hynny.

Gallwch archebu pecynnau profi gartref llif unffordd ar GOV.UKGallwch archebu 1 pecyn profi cartref (7 prawf) ar y tro. Mae’n cymryd 1 i 2 diwrnod i’w danfon.

Gallwch hefyd gasglu’r pecynnau profion. Dod o hyd i’ch pwynt casglu agosaf ac amserau agor (ar nhs.uk).

Gallwch gasglu profion COVID-19 cyflym o’r rhan fwyaf o fferyllfeydd. Darganfyddwch a yw fferyllfa yn eich ardal chi yn cynnig y gwasanaeth hwn.

Dim ond pobl nad oes ganddynt symptomau Covid ddylai ddefnyddio profion llif unffordd  Dylai unrhyw un sydd â symptomau gymryd prawf PCR a gallwch archebu hwn drwy ddefnyddio’r ddolen hon.  (Saesneg yn unig)

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN