Mae busnesau lletygarwch ar gau ar hyn o bryd yn sgil cyfyngiadau Covid-19, ond wrth i ni edrych tuag at y misoedd nesaf, byddwn yn gwneud popeth posib i gefnogi busnesau lleol.
Un o’r ffyrdd y gallwn wneud hyn yw hepgor y ffioedd sy’n cael eu talu gan fusnesau fel arfer am drwydded balmant, sy’n golygu y gallant weini ar bobl tu allan yn ddiogel. Mae hyn yn estyniad i’r hyn a wnaethon ni llynedd, ac fe ymgeisiodd a derbyniodd sawl un eu trwydded.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio: “Mae busnesau wedi cael amser caled iawn ers mis Mawrth diwethaf, ac mae angen ein cefnogaeth arnynt. Drwy gynnig y trwyddedau hyn am ddim, rydym yn gobeithio eu hannog i gynyddu’r gofod sydd ganddynt ar gyfer cwsmeriaid, drwy ddefnyddio ardaloedd ar y palmant.
“Wrth i ni ddynesu at fisoedd y gwanwyn a’r haf, a nosweithiau hirach, gall gwsmeriaid edrych ymlaen at deimlad mwy cosmopolitan yn eu hoff fwyty, gaffi neu dafarn, unwaith maent yn cael agor, ac rydym yn gobeithio gweld rhagor o fusnesau yn cymryd mantais o’r cynnig.”
Mae rhagor o wybodaeth am Drwyddedau Stryd a sut i wneud cais ar gael ar ein gwefan:
CANFOD Y FFEITHIAU