Mae ffilm, lluniau a chyfres o fapiau digidol newydd sbon yn arddangos ardal Gogledd Ddwyrain Cymru wedi eu rhyddhau fel rhan o ymgyrch Blwyddyn Darganfod Croeso Cymru.
Mae Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir y Fflint wedi dod ynghyd i gynhyrchu’r adnodd marchnata er mwyn ysbrydoli pobl leol ac ymwelwyr i brofi’r rhanbarth.
Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf yng Nghyfarfod Masnach Blynyddol Twristiaeth Gogledd Cymru ac mae’n archwilio cynnig y rhanbarth i dwristiaid gan gynnwys atyniadau allweddol fel Castell Y Waun a Thraphont Ddŵr Pontcysyllte yn Wrecsam a Dyffryn Maes-glas yn Sir y Fflint ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn Sir Ddinbych.
Mae’r ffilm hon yn fan cychwyn cyfres o ffilmiau newydd byrion a fydd yn cael eu rhyddhad drwy’r flwyddyn, yn cynnwys themâu gwahanol gan gynnwys yr arfordir, cestyll, tirwedd, diwylliant, antur a Safle Treftadaeth Y Byd. Mae oriel o luniau proffesiynol wedi eu rhyddhau hefyd er mwyn ceisio denu ymweliadau newydd ac ail ymweliadau i’r ardal drwy gydol y flwyddyn.
Mae twristiaeth yn chwarae rhan hanfodol yn economi’r rhanbarth, gyda chyfanswm effaith economaidd o £867 miliwn yn 2017 , a dros 11 miliwn o ymweliadau.
Meddai Sam Regan, Cadeirydd Partneriaeth Rheoli Cyrchfan Dyma Wrecsam, “Gyda’r prif dymor twristiaeth wedi’n cyrraedd; mae’n wych gweld Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn gweithio gyda’i gilydd i lansio amrywiaeth o ddeunyddiau marchnata i arddangos y rhanbarth yn ystod y Flwyddyn Darganfod. Byddem yn annog busnesau i ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael iddynt er mwyn creu mwy o ymwybyddiaeth o’r ardal a rhoi hwb i’r economi lleol drwy gydol y flwyddyn.”
Mae saith map digidol newydd yn archwilio amrywiaeth o leoliadau ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru hefyd wedi eu cynhyrchu. Mae’r map yn cysylltu gyda Ffordd Gogledd Cymru sydd yn 75 milltir o hyd – un o dri llwybr twristiaeth a lansiwyd gan Croeso Cymru o dan y brand Ffordd Cymru. Mae’r mapiau wedi bod yn ymdrech gymunedol, gan fod busnesau wedi eu gwahodd i weithdai ar draws Gogledd Cymru i drafod eu syniadau am deithiau newydd i dwristiaid er mwyn ceisio hyrwyddo’r rhanbarth a darparu cylchdeithiau a llwybrau oddi ar Ffordd Gogledd Cymru.
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN