Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ffilmiau, chwilod a bandiau gwallt!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Ffilmiau, chwilod a bandiau gwallt!
ArallPobl a lle

Ffilmiau, chwilod a bandiau gwallt!

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 29, 2019 10:27 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Ffilmiau, chwilod a bandiau gwallt!
RHANNU

Rydym ni wedi cyrraedd trydedd wythnos y gwyliau haf ac mae’r diwrnod mawr wedi cyrraedd – Diwrnod Chwarae 2019!

Ddydd Mercher, 7 Awst, bydd digwyddiad mwyaf, gwlypaf a butraf y calendr, ond peidiwch â phoeni os na fedrwch chi fynd iddo – mae yna lu o weithgareddau gwych eraill i’ch plant gymryd rhan ynddyn nhw.

Dyma’r gorau o’r cyfan!

3 Awst, 10am-12pm
Tŷ Pawb
Clwb Celf i Deuluoedd
Sesiwn dan ofal artist sy’n rhoi cyfle i blant a’u teuluoedd grwydro ein horielau a datblygu eu dychymyg a’u sgiliau creu. Mae’r sesiwn yn un galw heibio i deuluoedd. Mae’n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.
£2 y plentyn.

5 Awst, 10.30am-12pm
Amgueddfa Wrecsam
Amgueddfa Anniben
Yn addas i blant 3 oed ac iau.
Byddwn yn addurno loli iâ, bwcedi a rhawiau yn ein sesiwn ar thema’r traeth. Ffoniwch 01978 297460 am fwy o wybodaeth.
£2 i fabis a phlant bach, oedolion am ddim

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

6 Awst, 2pm
Llyfrgell Rhiwabon
Twrnamaint Hud
Yn addas ar gyfer plant 8 oed a hŷn
Am fwy o wybodaeth neu i archebu lle, cysylltwch â: 01978 822002

7 Awst, 12-2pm
Sgwâr y Frenhines, Wrecsam
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2019!
Mae Diwrnod Chwarae ar gyfer pobl o bob oedran, gan gynnwys babanod a phlant bach, plant hŷn, pobl yn eu harddegau, rhieni, gweithwyr proffesiynol a neiniau a theidiau, sydd i gyd yn cael gwahoddiad i ymuno yn y digwyddiad chwareus ac am ddim hwn. Bydd sefydliadau o bob rhan o Wrecsam, sy’n ymwneud â chwarae a gwaith chwarae, yn dod ynghyd i ddarparu ystod eang o gyfleoedd chwarae, gan gynnwys hen ffefrynnau fel y pwll tywod enfawr, brwydr ddŵr fawr a chwarae â sothach a siglenni rhaff. Y cyfan a ofynnwn yw eich bod yn dod mewn hwyliau chwareus a dillad nad ydych yn poeni eu gwlychu a’u baeddu. Yn y gorffennol, mae teuluoedd wedi dod â phicnic gyda nhw ac aros drwy’r prynhawn!

7 Awst, 1pm
Tŷ Pawb
Clwb Ffilmiau’r Haf i’r Teulu
Ymunwch â ni yn ein sinema fach pob prynhawn dydd Mercher yn ystod gwyliau’r haf i fwynhau hen ffefrynnau! Ffilm yr wythnos hon yw Toy Story. Bydd popgorn a diodydd ar gael cyn y ffilm. Am fwy o wybodaeth neu i archebu lle, cysylltwch â: 01978 292093.
£3 y pen neu £10 am docyn teulu

7 Awst, 1.30-3.30pm
Tŷ Mawr
Dosbarth Crefftau i Blant Iau
Yn addas ar gyfer plant 8 oed a hŷn (rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn)
Byddwn yn gwneud sêr allan o ffelt a bandiau gwallt. Darperir yr holl ddeunyddiau. I gadw lle, cysylltwch â junemclaughlin@btinternet.com neu ffoniwch 01978 711941 am fwy o fanylion.
£10 y pen

7 Awst, 1-2pm
Y Parciau
Sesiynau Chwaraeon a Gemau
Yn addas i rai rhwng 8 ac 14 oed
Cwrdd wrth safle’r seindorf am chwaraeon a gweithgareddau llawn hwyl. Ffoniwch 01978 298997 i gael manylion.
Am ddim

8 Awst, 1.30-2.30pm
Tŷ Mawr
Gwesty Chwilod
Addas ar gyfer pob oedran.
Dewch i greu gwesty 5 seren i drychfilod er mwyn annog bywyd gwyllt i ddod i’ch gardd. Cysylltwch â’r Parciau Gwledig ar 01978 763140 neu e-bostiwch countryparks@wrexham.gov.uk.

8-10 Awst, 11am-3pm
Gwaith Haearn y Bers
Diwrnod Agored i’r Teulu
Rydym ni’n cynnal digwyddiad bach i’r teulu cyfan! Bydd gweithgareddau amrywiol yn cael eu cynnal gan gynnwys adroddwr storïau proffesiynol, teithiau tywysedig o amgylch Gweithfeydd Haearn y Bers a llwybr plant. Codir tâl bychan am rai gweithgareddau. Cynhelir yr holl weithgareddau yn yr awyr agored oni bai y dywedir yn wahanol. Sicrhewch eich bod yn dod â dŵr yfed gan fod y cyfleusterau yn gyfyngedig ar y safle. Ffoniwch 01978 297460 am fwy o wybodaeth.

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn
gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”
https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/school_uniform_grant_w.htm “]
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Parcio am Ddim yn ystod yr Ŵyl Fwyd Parcio am Ddim yn ystod yr Ŵyl Fwyd
Erthygl nesaf Gwobr Medal AUR i Tŷ Pawb yn yr Eisteddfod Genedlaethol! Gwobr Medal AUR i Tŷ Pawb yn yr Eisteddfod Genedlaethol!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English