Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Parcio am Ddim yn ystod yr Ŵyl Fwyd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
wrexham library
‘A Pack of Five’ (Wedi’i ysbrydoli gan Hedd Wyn)
Digwyddiadau
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Parcio am Ddim yn ystod yr Ŵyl Fwyd
ArallPobl a lle

Parcio am Ddim yn ystod yr Ŵyl Fwyd

Diweddarwyd diwethaf: 2019/08/02 at 1:19 PM
Rhannu
Darllen 6 funud
Parcio am Ddim yn ystod yr Ŵyl Fwyd
RHANNU

Yn dilyn y newyddion y bydd parcio am ddim ar ôl 10am ar gyfer y Diwrnod Chwarae, rydym yn falch o gyhoeddi y bydd parcio am ddim hefyd ar gael i filoedd ar filoedd o bobl sy’n hoffi bwyd a’u teuluoedd pan fyddant yn heidio i ganol y dref ym mis Medi ar gyfer Gŵyl Fwyd Wrecsam sy’n cael ei chynnal yn Llwyn Isaf 🙂

Cynnwys
“Miloedd yn heidio i ganol y dref““Rhoddion Elusennol”“Prisiau Tocynnau”

Cynhelir y digwyddiad ar 7 ac 8 Medi a bydd parcio am ddim ar gael ym meysydd parcio’r Cyngor yng nghanol y dref ond ni fydd hyn yn cynnwys maes parcio aml-lawr Tŷ Pawb.

Mae hyn yn berthnasol ar ôl 10am. Bydd disgwyl i unrhyw un sy’n dymuno parcio cyn 10am dalu i barcio yn unol â ffioedd arferol y maes parcio a bydd y rhain yn cael eu gorfodi’n llym.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae disgwyl i’r digwyddiad eleni fod yn fwy ac yn well nag erioed, gyda dros 75 o gynhyrchwyr bwyd lleol a rhanbarthol, arddangosfeydd gan gogyddion o fwytai lleol, dosbarthiadau coginio, cerddoriaeth fyw ac arddangosfa tân gwyllt.

“Miloedd yn heidio i ganol y dref“

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Mae’r Ŵyl Fwyd yn golygu y bydd miloedd yn heidio i ganol dref ac rydym yn awyddus i gefnogi’r digwyddiad hwn sy’n dangos yr oll sydd gan Wrecsam a’r ardaloedd cyfagos i’w gynnig. Rwy’n gobeithio y bydd llawer o bobl yn bachu ar y cyfle i weld y dref, yn enwedig y sector manwerthu annibynnol rhagorol sydd gennym, a’r holl bethau sydd ar gael iddynt yma yn Wrecsam.

“Hoffwn ddiolch i bawb a oedd ynghlwm â sicrhau bod y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yng nghanol y dref a dymuno’n dda iddynt ar gyfer 2019.”

Dywedodd Alex Jones, un o drefnwyr yr Ŵyl Fwyd, “Diolch yn fawr iawn i Gyngor Wrecsam am y fenter hon, cawsom adborth gwych y llynedd gan y rhai a ddefnyddiodd y cynnig parcio am ddim, ymweld â’r Ŵyl Fwyd ac yna’r dref. Gobeithiwn y bydd yr ŵyl yn rhoi hwb arall i’r economi leol, ac mae unrhyw beth sy’n helpu’r bobl a fydd yn mynychu i gefnogi’r ŵyl a’r dref dros y penwythnos hwnnw yn siŵr o gael ein cefnogaeth ni.”

“Rhoddion Elusennol”

Dywedodd Sam Regan, un arall o drefnwyr yr Ŵyl Fwyd, “Yn dilyn llwyddiant y flwyddyn gyntaf, rydym yn falch iawn o wahodd Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam ac Yourspace i dderbyn eu rhoddion elusennol yn ystod y digwyddiad eleni.”

“Eleni, rydym yn cefnogi ac yn gweithio gydag Elusen Canolfan Walton, sydd yn bwysig iawn i un aelod o’n tîm gwirfoddol, ond hefyd i lawer iawn o bobl yn Wrecsam a Gogledd Cymru.”

“Caiff y ganolfan ‘Cartref oddi Cartref’ ei darparu gan yr elusen, ar gyfer perthnasau sydd angen rhywle i aros wedi i glaf gael ei anfon i’r ysbyty am driniaeth frys. Darperir llety am ddim yn y ganolfan ‘Cartref oddi Cartref’ i deuluoedd sydd ei angen diolch i gefnogwyr yr elusen. Mae’n costio oddeutu £50,000 y flwyddyn i redeg yr uned.

Unwaith eto, mae Andy Gallanders o Bank St Social yn trefnu’r rhaglen digwyddiadau byw, “Ar ddydd Sadwrn bydd llwyfan Wrexham Lager (safle’r seindorf) yn croesawu cerddorion  lleol yn cynnwys y prif berfformwyr, Rhythm Train a’r prif berfformwyr ddydd Sul fydd Coverlovers.

Ychwanegodd Andy, “Braint oedd bod yn rhan o guradu’r adloniant ar gyfer Gŵyl Fwyd Wrecsam am yr ail flwyddyn yn olynol. Nid yn unig yw’r ychwanegiad o barcio am ddim yn wych i’r ŵyl ond mae hefyd yn hwb anferthol i’r dref gyfan, rydym wir yn annog busnesau yn y dref i fanteisio ar hyn!”

Cliciwch yma i weld gwefan yr Ŵyl Fwyd 2019.

“Prisiau Tocynnau”

Bydd tocynnau ar gael ar y diwrnod a gweler y prisiau isod:

Tocyn Dydd – Oedolyn (16+) – £4.00

Tocyn Dydd – Plentyn (8 – 16) – £2.00

Tocyn Dydd – Teulu (2 oedolyn a 3 phlentyn) – £10.00

Tocyn Deuddydd – Oedolyn (16+) – £6.00

Tocyn Deuddydd – Plentyn (8 – 16) – £3.00

Tocyn Deuddydd – Teulu (2 oedolyn a 3 phlentyn) – £15.00

Babanod (o dan 8 oed) – AM DDIM

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION

Rhannu
Erthygl flaenorol Gosod sylfaen i ddefnyddio calch mewn cwrs am ddim Gosod sylfaen i ddefnyddio calch mewn cwrs am ddim
Erthygl nesaf Ffilmiau, chwilod a bandiau gwallt! Ffilmiau, chwilod a bandiau gwallt!

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

wrexham library
‘A Pack of Five’ (Wedi’i ysbrydoli gan Hedd Wyn)
Digwyddiadau Gorffennaf 15, 2025
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor Gorffennaf 14, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

good to grow
Busnes ac addysgPobl a lle

Da i Dyfu

Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025

Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
ArallFideoY cyngor

Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam

Gorffennaf 14, 2025
Plastic Free July
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig

Gorffennaf 11, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English