Ydi’ch plentyn chi’n cymryd rhan yng nghynllun clwb brecwast am ddim eu hysgol gynradd?
Rydym wedi penderfynu codi ffi fechan am yr elfen o ofal plant a ddarperir mewn ysgolion cynradd fel rhan o’r clybiau hyn, er mwyn talu costau’r 30 munud o ofal plant sydd ei angen cyn i’r clybiau brecwast gychwyn.
Bydd y cynllun yn parhau i gael ei gynnal am awr y dydd yn yr ysgolion sy’n cymryd rhan, cyn amser cychwyn swyddogol y diwrnod ysgol.
GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!
Bydd 30 munud olaf y gwasanaeth i’w gael am ddim o hyd, ond i’r rhieni neu warcheidwaid hynny sydd eisiau mynd â’u plant i’r ysgol yn ystod 30 munud cyntaf y cynllun, byddwn yn codi ffi o £1 y plentyn y dydd, er mwyn cyfrannu at gostau’r oruchwyliaeth sydd ei hangen.
Er enghraifft, os yw’r diwrnod ysgol yn cychwyn am 8:50am, dim ond ar y plant sy’n cyrraedd yno rhwng 7:50am a 8.20am y byddwn yn codi ffi.
Ni fydd rhaid i blant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim dalu’r ffi hon.
Penderfyniadau Anodd
Mae’r penderfyniad hwn yn dilyn yr ymgynghoriad Penderfyniadau Anodd a gynhaliwyd yn ystod gaeaf 2017.
Gwelwyd amrywiaeth o ymatebion gan y cyhoedd i’r dewis o godi tâl am hanner awr gyntaf y clybiau brecwast.
Nododd rhai ohonoch chi y dylai teuluoedd ag incwm isel gael eu heithrio, a dyma pam na fyddwn yn codi tâl ar ddisgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim.
Nododd eraill bod y ffi o £1 yn rhesymol, ac y dylid ei chyflwyno.
Cafwyd cytundeb cyffredinol ar y ffioedd arfaethedig, a thybir mai rhieni mewn gwaith fydd yn defnyddio’r gwasanaeth hwn yn bennaf, gan y bydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd iddyn nhw gyda’u patrymau gwaith a hefyd yn gadael iddyn nhw ymestyn eu horiau gwaith.
Sut ydw i’n talu?
Bydd rhieni sydd eisiau talu yn gwneud hynny ymlaen llaw. Cyfeirir rhieni a gwarcheidwaid at wasanaeth taliadau ar lein er mwyn archebu’r gwasanaeth ymlaen llaw a thalu ar lein, ond bydd rhieni/gwarcheidwaid na allant dalu ar lein yn gallu talu’r staff arlwyo mewn arian parod.
Bydd disgyblion sydd â hawl i brydau ysgol am ddim yn cael eu heithrio rhag talu’r ffi, ond bydd angen i’r rhieni/gwarcheidwaid archebu ymlaen llaw o hyd.
Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.
DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU